WHITFORD
,
RICHARD
(bu f.
1542?
),
offeiriad ac awdur
;
credir ei fod yn frodor o
Chwitfford
yn
sir y Fflint
; yr oedd gan ewythr o'r un enw ag ef diroedd yno ac yn yr
Hôb
, a adawodd (gyda thiroedd eraill, yn
Lancashire
) i'w nai
John
Edwards
, frawd ei chwaer, ac ymddengys mai aelod arall o'r teulu oedd yr
Hugh
Whitford
a oedd yn
rheithor
Chwitfford
yn
1537-60
. Aeth
Richard
i
Queens' College
yng
Nghaergrawnt
yn
1495
, a chafodd gymrodoriaeth yno yn
1497
(daliodd hi
hyd 1504
), pryd yr aeth i'r
Cyfandir
yn
gaplan
gyda'r
arglwydd Mountjoy
. Gan fod yr
ysgolhaig
enwog
Erasmus
yn
athro
i
Mountjoy
, tyfodd cyfeillgarwch rhwng
Erasmus
a
Whitford
— cyfaill mawr i'r ddau oedd
Syr
Thomas
More
, ac y mae gennym lythyrau a basiodd rhwng y tri. Daeth
Erasmus
gyda
Mountjoy
a
Whitford
i
Loegr
, a bu'n tario beth amser gyda
Whitford
yn
Rhydychen
a
Chaergrawnt
— odid nad ei breswyl dros dro yn
Rhydychen
y pryd hwn a barodd i
Anthony
Wood
ddweud mai myfyriwr yn
Rhydychen
oedd
Whitford
. Tua
1500
penodwyd ef yn
gaplan
i
Richard
Foxe
,
esgob Winchester
, serch nad oedd ganddo, i bob golwg, farn uchel am
Foxe
(dylid dweud bod y
D.N.B.
yn amau dilysrwydd ymosodiad ar
Foxe
a briodolir iddo). Yn
1507
, ymunodd â chwfaint
Syon House
yn
Isleworth
(cwfaint o
leianod
, ond yr oedd yno ychydig ganoniaid o gyffeswyr a chaplaniaid); yno eisoes yr oedd ei ewythr
Richard
Whitford
, a fu f. yno yn
1511
— gw. y dyfyniad o'i ewyllys yn
Arch. Camb.
,
1880
, 221, ond prin y gellir derbyn y nodyn ar waelod y ddalen. Bwriodd
Richard
(
ieu.
)
ei dymor yn y cwfaint yn
sgrifennu llyfrau defosiwn ar gyfer y lleianod
, ond cafodd y llyfrau gryn gylchrediad y tu allan i'r muriau hefyd. Pan ymwelodd
cennad y brenin
â
Syon House
(
1534
) i chwilio am achos dros ei ddiddymu, gwrthsafodd
Whitford
ef yn eofn. Ond diddymwyd y cwfaint yn
1539
, ac o hynny allan cafodd
Whitford
nawdd gan
Mountjoy
. Yr oedd yn fyw yn
1541
; ond mewn copi o un o'i lyfrau yn
Lambeth
, o dan y geiriau ‘
the olde wretched brother of Syon
,’ chwanegodd llaw gyfoes y geiriau ‘
ob. an. Dni. 1542
’; gellid meddwl felly mai yn
1542
y bu f., serch bod rhai'n credu iddo fyw bron hyd ddiwedd oes
Mari
frenhines
.
Rhydd y
D.N.B.
restr o 16 o lyfrau a gyhoeddwyd ganddo; chwanegodd yr
archddiacon
A. O.
Evans
[q.v.]
bedwar llyfr arall. Y pwysicaf i ni yw ei gyfieithiad
Saesneg
o
Imitatio
Thomas à Kempis
(noder fodd bynnag mai i
Jean
Gerson
y priodola
Whitford
y
llyfr). Yn
1556
y cyhoeddwyd y cyfieithiad dan enw
Whitford
, ond yr oedd wedi ymddangos yn ddi-enw mor gynnar â
1531
ac wedi ei ailargraffu bedair gwaith yn y cyfamser. Barnai
Ronald
Bayne
(awdur yr ysgrif yn y
D.N.B.
arno) fod trosiad
Whitford
‘
in style and feeling the finest rendering into
English
of the original
.’
Llyfryddiaeth:
-
Venn
,
Alumni Cantabrigienses
; llythyrau 89 a 191 yn arg.
P. S. Allen
o lythyrau Erasmus — gw. hefyd i, 225;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
A. O. Evans
, yn
Journal of the Welsh Bibliographical
Society
, iv, 7-14, 28-9; v, 57-9.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor