WAYNE (TEULU), Sir Forgannwg

MATTHEW WAYNE (c. 1780 - 1853), meistr gwaith haearn a pherchennog pyllau glo

Daeth gyntaf i sylw fel goruchwyliwr ffwrnais Richard Crawshay, Cyfarthfa. Yr oedd gan Crawshay gymaint o feddwl o Wayne nes y gadawodd iddo £800 yn ei ewyllys. Gyda'r arian hwn - bu Crawshay farw yn 1810 - gallodd Wayne ddyfod yn bartner gyda Syr Joseph Bailey, nai Richard Crawshay, i brynu gwaith haearn llewyrchus Nantyglo, a gymerwyd ar les ganddynt 28 Mawrth 1811. Llwyddodd y partneriaid gymaint nes i Wayne allu ymneilltuo o'r bartneriaeth c. 1820 i wneuthur lle i frawd Syr Joseph Bailey, sef Crawshay Bailey, â digon o arian ganddo i ddechrau busnes drosto'i hun. Ymddengys iddo ddychwelyd i ardal Cyfarthfa. Yn 1823 yr oedd yn rhyddddeiliad tir yn Gelli-deg, Merthyr Tydfil, ac yn aelod amlwg a haelionus yn Hen Dŷ Cwrdd Cefn Coed y Cymer. Yn nhir y capel hwn y claddwyd ef a'i wraig, Margaret, merch William Watkyn, amaethwr, Pen-moel-allt, Cwm Taf.

Yn 1827 sefydlodd Wayne ei waith haearn ei hun yn y Gadlys, Aberdâr; yr oedd George Rowland Morgan ac Edward Morgan Williams hefyd yn y busnes hwn, eithr ymneilltuodd Edward Morgan Williams yn 1829. Ar Wayne yr oedd prif ofal y gwaith ar y cyntaf - nid oedd gan ei feibion (isod) ran ynddo. Gwaith bychan, cryno, ydoedd o'i gymharu â'r gweithydd yn Abernant, Llwydcoed, etc.; dim ond un ffwrnais a oedd ynddo am gryn amser. Yn 1828 anfonodd y cwmni 444 tunell o haearn ar y gamlas i Gaerdydd. Erbyn 1836 yr oedd y swm wedi cyrraedd 1,291 tunnell - a dyma'r pryd y daeth y meibion i'r busnes, a hynny oblegid fod y tad yn mynd i oedran. Dywedai ysgrifennydd yn y Cardiff and Merthyr Guardian, 12 Mawrth 1853, sef wedi marw Wayne, mai efe oedd y cyntaf i anfon glo i Gaerdydd o fasn glo Aberdâr, ac mai iddo ef, yn anad neb, yr oedd llwyddiant diwydiannol Aberdâr yn fwyaf dyledus gan mai efe oedd y cyntaf i ddarganfod rhinweddau gwerthfawr y glo ager, a dyfod â'r glo hwn i sylw'r cyhoedd. Eithr ei fab ef, Thomas Wayne, a gaiff y clod am hyn fel rheol; dywedir mai ef a anogodd ei dad a'i frawd hŷn i gloddio am y wythïen lo bedair troedfedd enwog, fel y gwnaethai Lucy Thomas, Waunwyllt, Merthyr Tydfil. Gyda theulu David, Abernant-y-groes, Cwmbach, a'i ddau fab, Thomas a William Watkin Wayne (isod), ffurfiodd Matthew Wayne gwmni a alwyd Wayne's Merthyr-Aberdare Steam Coal Company a dechreuwyd cloddio'r pwll ym Mehefin 1837. Wedi iddynt gloddio 49 llath i lawr cyraeddasant y glo a dangosasant esiamplau ohono yn Llundain ar 13 Rhagfyr. O hyn ymlaen yr oedd y tad a'r meibion yn brysur gyda'r gwaith haearn yn y Gadlys a'r gweithydd glo a oedd yn gyswllt â hwy (Pwll Newydd a'r Graig), a chyda'r pwll newydd yn Cwmbach. Yn 1839 anfonwyd 1,081 tunell o haearn a 3,373 tunell o lo i ffwrdd, yn 1845 codwyd 38,000 tunell o lo o lofa Cwmbach, ac yn 1846 codwyd 48,000 tunell; erbyn hyn yr oedd yr haearn a'r glo yn cael eu hanfon ar y rheilffordd yn ogystal ag ar y gamlas i Gaerdydd. Yn 1850 yr oedd pedair ffwrnais yn y Gadlys, a'r un flwyddyn sefydlwyd y Gadlys Tin Works.

Bu Matthew Wayne farw 7 Mawrth 1853, gan adael pedwar mab -

(1) WILLIAM WATKIN WAYNE (1808 - 1863)

Plasnewydd, Llwydcoed. Yn gynnar yn ei yrfa yr oedd ef yn Maesteg fel swyddog yn y Llynfi Valley Ironworks. Priododd, 1837, Gwenllian, merch Rees Jenkins, Glyncorrwg, a bu un ferch o'r briodas.

(2) THOMAS WAYNE (1810 - 1867)

Bu ef am flynyddoedd yn gynrychiolydd cwmni'r gamlas; yr oedd hefyd yn drysorydd (ac yn un o ymddiriedolwyr) yr Aberdare Turnpike Trust. Wedi i'w dad farw daeth yn rheolwr gwaith haearn y Gadlys, a bu'n ychwanegu at y gwaith a'i wella. Bu farw 29 Mawrth 1867.

(3) MATTHEW WAYNE (1812 - 1852), perchennog y Carmarthen Tin Works

Priododd, ond ni bu iddo blant. Bu farw fis Ionawr 1852 yng Nghaerfyrddin.

(4) WATKIN WAYNE (1815 - 1869)

Tŷ Mawr, Rhondda. Bu iddo yntau gyfran yng ngwaith alcam Caerfyrddin. Bu farw 16 Ebrill 1869.

Yr oedd un o ferched Matthew Wayne (sef y tad) yn briod â William Morgan, Hafod. Disgynyddion o'r briodas hon ydyw'r rhai sydd yn dwyn y cyfenw Wayne-Morgan.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.