WATKIN, EVAN (fl. c. 1801 - c. 1845), ysgolfeistr ac awdur

Enw: Evan Watkin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

aelod o deulu yn byw ym Moelcerni gerllaw Aberystwyth. Bu yn ysgol Ystradmeurig, eithr nid ymddengys iddo fynd i Rydychen. Yr oedd yn Llundain ym mis Ionawr 1821 yn chwilio am swydd ysgolfeistr; gwyddys iddo fod yn athro ysgol yn Twickenham, Llundain (Cavendish Square), Cheltenham, Totteridge (swydd Hertford), Aberystwyth, Worcester, Cheltenham (Charlton), Bath (Belvedere), a thrachefn yn Cheltenham. Cyhoeddodd (1) A new translation of Homer's Iliad, with notes, by Blank Blank, Esq. (London, published by A. Robertson and Co. Printed by J. Cox, Aberystwyth, 1825); (2) A Key to the Greek Language (London : A. Robertson and Co.); (3) Greek Delectus for the use of Schools; (4) Greek Grammar. Rhoes i fyny fod yn athro ysgol yn 1840 a bu'n golygu The Demetian Mirror, or Aberystwith Reporter, 12 rhifyn, a gyhoeddid gan John Cox.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.