WALTERS, JOHN (1760 - 1789), clerigwr, bardd, ac ysgolhaig

Enw: John Walters
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1789
Rhiant: John Walters
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, bardd, ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Ganwyd 11 Mehefin 1760 yn Llandochau, mab hynaf John Walters, rheithor Llandochau, ac fe'i haddysgwyd yn ysgol ramadeg y Bont-faen. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1777, a chymerth y radd B.A. yn 1781 a'r radd M.A. yn 1784. Bu'n islyfrgellydd yn llyfrgell Bodley. Yn 1783 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol ramadeg y Bontfaen, a chafodd guradiaeth yn y dref honno. Tua diwedd 1784 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol ramadeg Rhuthyn, ac wedi hynny cafodd reithoraeth Efenechtyd, lle y bu farw 28 Mehefin 1789.

Enillodd gryn sylw fel bardd Saesneg, a phan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Iesu,, cyhoeddodd gyfrol o gerddi Poems, with Notes , 1780. Y mae'n eglur fod ei dad wedi ennyn ei ddiddordeb mewn astudiaethau Cymreig, ac yn 1782 cyhoeddodd gyfieithiadau mydryddol o hen gerddi Cymraeg, Translated Specimens of Welsh Poetry. Tynnodd sylw Cymry Llundain, ac wedi marw Richard Thomas fe'i hanogwyd i gyhoeddi canu Llywarch Hen, gyda chyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd darn o'r cyfieithiad hwn yn llyfr Warrington , The History of Wales, 1788. Rhoes nodiadau i Edward Jones ('Bardd y Brenin') i'w cynnwys yn ei ragymadrodd i'w lyfr, Musical and Poetical Relicks, 1784. Dengys llythyrau'r cyfnod fod Cymry Llundain yn edrych arno fel ysgolhaig ifanc a allai hyrwyddo eu cynlluniau hwy. Cyhoeddodd amryw lyfrau eraill, gan gynnwys argraffiad o lyfr Roger Ascham, Toxophilus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.