VAUGHAN (TEULU), Trawsgoed (Crosswood), Sir Aberteifi

Hyd y flwyddyn 1947, pan drosglwyddwyd cartref y teulu hwn, sef Trawsgoed, plwyf Llanafan, Sir Aberteifi, i fod yn ganolfan gwasanaeth ymgynghorol y Llywodraeth ynglyn ag amaethyddiaeth yng Nghymru, gallai'r teulu hwn hawlio cysylltiad didor â'r lle am tua chwe chanrif. Â Deheudir Cymru y cysylltir y teulu gan amlaf, eithr at Collwyn ap Tangno, cyndad a gysylltir â Sir Gaernarfon, yr olrheinir yr ach. Tybir mai'r cyntaf i ymsefydlu yn y Trawsgoed oedd ADDA AP LLEWELYN FYCHAN (c. 1200); y mae'r casgliadau achau yn cytuno i ddywedyd iddo briodi Tudo (neu Dudo), merch ac aeres Ieuan Goch, Trawsgoed. Gor-or-wyr i Adda a Tudo oedd MORYS FYCHAN ap IEUAN; efe, meddir, a ddechreuodd gyfrif y Fychan (Vaughan wedi hynny) yn gyfenw. Ymysg dogfennau'r teulu (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) y mae gweithred yn perthyn i'r flwyddyn 1547 sydd yn tystio bod RICHARDE AP MORIS VAUGHAN, tad MORIS AP RICHARD AP MORIS, Llanafan, oherwydd bod priodas wedi ei threfnu rhwng Moris ap Richard ap Moris ac Elliw, merch ac aeres Howell ap Jenkin, yn cytuno i drosglwyddo dau dy, etc., yn cynnwys 'the place at Trausgoed,' h.y, ' Plas Trawsgoed,' at wasanaeth Moris ac Elliw. O hyn ymlaen y mae dogfennau'r teulu yn rhoddi cryn lawer o fanylion ynghylch gwahanol aelodau'r teulu a'u disgynyddion ac am y stad (N.L.W. Calendar of Crosswood Deeds, 1927).

Ymddengys mai'r Vaughan cyntaf i briodi ag aelod o deulu Stedman, Strata Florida (a Cilcennin), ydoedd EDWARD VAUGHAN (bu farw 1635), a briododd Lettice, merch John Stedman (manylion am ewyllys Edward Vaughan yn Crosswood Calendar, 59-60). Edward Vaughan a Lettice (Stedman) oedd rhieni un o aelodau enwocaf y teulu, sef y barnwr Syr John Vaughan (1603 - 1674).

Mab hynaf y barnwr a Jane (Stedman) oedd EDWARD VAUGHAN (bu farw 1683), a olygodd Reports ei dad. Bu'n aelod seneddol dros Aberteifi (26 Chwefror 1678/9 hyd 28 Mawrth 1681) ac am gyfnod byr yn un o Arglwyddi y Morlys. Priododd ef Letitia, merch Syr William Hooker. Gwnaeth y brenin (William III) eu mab hwy, JOHN VAUGHAN (1670? - 1721), yn farwn Fethard, swydd Tipperary, ac yn is-iarll 'Viscount' Lisburne, swydd Antrim (ym mhendefigaeth Iwerddon) yn 1695. Priododd (1), 18 Awst 1692, â Malet, trydedd merch ail iarll Rochester, a (2) Elizabeth (bu farw Awst 1716). Trwy Malet yr oedd yn dad i JOHN VAUGHAN, ail is-iarll Lisburne, a thrwy Elizabeth yn dad WILMOT VAUGHAN, 3ydd is-iarll Lisburne; bu'r ail is-iarll a'r 3ydd yn arglwyddi-raglaw Sir Aberteifi. Priododd Wilmot Vaughan Elizabeth, merch Thomas Watson, Berwick-upon-Tweed (gweler mynegai y Crosswood Calendar, o dan enw'r lle hwn). Mab hynaf y briodas hon oedd Wilmot Vaughan, a grewyd yn iarll Lisburne yn 1776. Yr ail fab oedd John Vaughan (1748? - 1795) - Lieutenant-General Syr John Vaughan, K.B., wedi hynny. Disgrifir gyrfa'r milwr hwn yn y D.N.B.; bu'n gwasnaethu yn yr Almaen, yn America (fel lieutenant-colonel, 1760-7, ac fel major-general, 1776-9), ac yn y West Indies, 1780-2. Bu'n llywiawdr Berwick, yn swyddog llyngesol â gofal y Leeward Islands arno, a bu farw yn Martinique.

Dilynwyd Wilmot Vaughan, yr iarll Lisburne cyntaf, a fu farw yn 1813, gan ei fab hynaf, yntau'n WILMOT VAUGHAN. Bu'r ail iarll hwn farw yn 1820, yn ddibriod, a dilynwyd ef gan ei hanner-brawd, John Vaughan (1769 - 1831), 3ydd iarll Lisburne, cyrnol yn y fyddin, ac aelod seneddol dros sir Aberteifi, 1796-1818.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.