unig fab cyfreithlon
Hywel
Fychan
(a fu f.
1639
), y
Wengraig
yn nhreddegwm
Garthgynfor
a phlwyf
Dolgellau
ar lethrau dwyreiniol
Cader Idris
, a olrheiniai ei dras o
Gadwgan
,
arglwydd Nannau
, mab
Bleddyn ap Cynfyn
,
tywysog Powys
. Ei fam oedd
Margaret
, ferch
Edward
Owen
,
Hengwrt
, plwyf
Llanelltyd
, ac ŵyres
Lewis
Owen
[q.v.]
,
barwn Siecr Gogledd Cymru
, a
laddwyd
gan
Wylliaid Cochion Mawddwy
yn
1555
. Ganwyd
Robert Powell
Vaughan
, neu
Robert
Vaughan
fel y daethpwyd i'w adnabod, yn y
Wengraig
,
tua 1592
, a barnu oddi wrth gofnod ei fynediad i
Goleg Oriel
,
Rhydychen
, yn 20 oed yn
1612
. Gadawodd y coleg heb gymryd gradd. Y mae hanes ei fywyd cynnar yn ddirgelwch, ond gellid dadlau oddi wrth ei gyfeillgarwch â
Rhys
a
Sion Cain
, a gydnabyddai ef fel ei
athrawon mewn achyddiaeth
, iddo dreulio cryn amser yng
Nghroesoswallt
. Ni wyddys chwaith ddyddiad ei briodas â
Chatrin
(
1594
-
1663
), ferch
Gruffudd
Nannau
(g.
1568
), ond gwyddys ei fod yn byw yn y
Wengraig
yn
1624
. Tebyg yw iddo fyned i fyw i
Hengwrt
ar ôl priodi.
Rhwng 1608 a 1612
ceir fod
Robert
Owen
yn gwystlo
Hengwrt
i'w frawd-yng-nghyfraith,
Hywel
Fychan
. Yr oedd
Robert
Vaughan
yn
ustus heddwch
ym
Meirion
a
chymerai ran flaenllaw mewn materion lleol
. Ymddengys ei fod yn
dal trysoryddiaeth trethi pontydd
rhan o'r sir yn ystod y
Werinlywodraeth
. Nid yw'n debyg i helyntion ymrafael y dyddiau hynny fennu llawer ar ei fywyd. Ei brif ddiddordebau oedd
achyddiaeth
,
hanes cynnar Cymru
,
hynafiaethau
, a
chasglu llyfrau a llawysgrifau
. Yr oedd ganddo gylch eang o ohebwyr ar y pynciau hyn, e.e.
Rhys
a
Siôn Cain
,
Dr.
John
Davies
,
Mallwyd
,
Ieuan Llwyd Sieffre
,
y Palau
,
John
Jones
,
Gellilyfdy
(llawysgrifau'r hwn a ddaeth i'w feddiant tua
1658
),
Meredith
Lloyd
y Trallwng
,
William
Maurice
Cefnybraich
,
Wynniaid
Gwydir
,
Syr
Simonds
D'Ewes
,
John
Selden
, a
James
Ussher
,
archesgob Armagh
. Y llyfrgell lawysgrifau a gasglodd yn
Hengwrt
yw'r casgliad gwychaf o lawysgrifau
Cymraeg
a grynhowyd erioed gan unigolyn. Arhosodd yn
Hengwrt
hyd
1859
, pan drosglwyddwyd hi drwy ewyllys
Syr
Robert Williames
Vaughan
i
W. W. E.
Wynne
,
Peniarth
[q.v.]
. Prynu etifeddiaeth llyfrgell
Hengwrt
-
Peniarth
i'w chadw yn
Aberystwyth
yn
1905
gan
Syr
John
Williams
oedd un o'r dadleuon cryfaf dros osod y
Llyfrgell Genedlaethol
yno. Casglodd
Robert
Vaughan
lyfrau hefyd, ond chwalwyd hwy gan
Thomas
Kerslake
,
llyfrwerthwr
ym
Mryste
, yn
nechrau'r 19eg g.
Erys y catalog a wnaeth
Robert
Vaughan
o'i lyfrgell (llsgr.
N.L.W. 9095
).
Copïodd nifer da o hen destunau llenyddol a hanesyddol
,
gwnaeth fynegair ysgrythurol
,
llyfrau achau
, yn arbennig y casgliad gwerthfawr sydd yn llsgr.
Peniarth 287
, a
thraethodau ar amseryddiaeth a phynciau yn hanes Cymru
, a
chyfieithodd
Frut y Tywysogion
yn
Saesneg
. Arfaethai ddwyn allan argraffiad diwygiedig o
Historie
David
Powel
[q.v.]
, gw.
B.B.C.S.
, vi,
157. Yr unig waith a gyhoeddodd oedd llyfryn yn dwyn y teitl
British Antiquities Revived
(
Rhydychen
,
1662
). Ei gynnwys yw gwrthddadl yn erbyn casgliad
Syr
Thomas
Canon
mai
Cadell
oedd mab hynaf
Rhodri Mawr
ac felly fod tywysogion
Deheubarth
yn cael blaenoriaeth ar dywysogion
Gwynedd
, cywiriad yn ach
iarll Carbery
fel y ceir hi yn
Cambria Triumphans
Percy
Enderbie
gan wahaniaethu rhwng
Gwaethfoed
Powys
a
Gwaethfoed
Ceredigion
, a thraethiad byr ar
Bum Llwyth Brenhinol Cymru
.
Bu
Robert
Vaughan
farw ar
ddydd Iau'r Dyrchafael (16 Mai), 1667
. Dywed
Anthony
Wood
, ar awdurdod
Thomas
Ellis
,
rheithor
Dolgellau
, iddo gael ei gladdu yn eglwys y plwyf hwnnw. Nis cofnodir yng nghofrestr yr eglwys honno. Ond mewn drafft o'i ewyllys, a wnaethpwyd
1 Mai 1665
, yno y gorchmynnai ei gladdu. Gadawodd bedwar mab a phedair merch —
HYWEL
VAUGHAN
, y
Fanner
,
siryf
Meirion
,
1671
, a briododd ddwywaith, (1) â
Jane
ferch
Robert
Owen
,
Ystumcegid
, a gweddw
Huw
Tudur
,
Egryn
, a (2) â
Lowri
ferch
Gruffudd
Derwas
,
Cemaes
, a gweddw
Wmffre
Pugh
,
Aberffrydlan
;
YNYR
VAUGHAN
, a oedd yn ddibriod ond a genhedlodd
John fab Ynyr
a ymfudodd i
Bensylfania
;
HUGH
VAUGHAN
, a briododd
Elisabeth
ferch
Edmund
Meyrick
Ucheldre
; a
GRUFFUDD
VAUGHAN
a etifeddodd
Ddolmelynllyn
ac a briododd
Catherine
ferch
John ap Robert ap John ap Lewis ap Meredith
,
Glynmaelda
;
MARGARET
a briododd (1)
William
Prys
,
rheithor
Dolgellau
, a (2)
Robert Fychan ap Tudur Fychan
,
Caerynwch
;
JANE
a briododd
Robert
Owen
,
Dolyserau
;
ELIN
a briododd
Dafydd
Elis
ap
Rowland
Elis
,
Gwanas
; ac
ANN
a briododd
Hugh
Evans
,
Berthlwyd
,
Llanelltyd
.