Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VAUGHAN (TEULU), Porthaml , ym mhlwyf Talgarth , sir Frycheiniog . Sefydlydd y gainc hon o'r Fychaniaid oedd ROGER VAUGHAN , ail fab Syr Rhosier Fychan , Tre'r Tŵr ( gw. y teulu hwnnw ). Hwyrach mai ef oedd hwnnw a gafodd bardwn, 9 Gorffennaf 1491 , fel Roger Vaughan , Tyleglas , a thrachefn ar rôl pardwn Harri VIII ( 1509 ) fel Roger ap Roger , Tyleglas , neu Roger Vaughan , Talgarth . Cafodd stiwardiaeth a rhysyfwriaeth arglwyddiaeth Dinas , 17 Ionawr 1509 , ac yr oedd wedi marw cyn 25 Medi 1514 pan drosglwyddwyd y swyddi hynny i Syr Gruffudd ap Rhys . Ei wraig oedd Joan , ferch Robert Whitney o Constance ferch James , arglwydd Audley . Disgynyddion ei ail fab, Thomas Vaughan , oedd Fychaniaid Tregunter . Priododd yr aer, WATKIN VAUGHAN , Joan ferch Ieuan Gwilym Fychan o'r Peytyn Gwyn . Gydag etifedd hwnnw, WILLIAM VAUGHAN , y daeth y teulu i amlygrwydd. Cafodd ef brydles tiroedd Dinas , 14 Chwefror 1529 . Efe oedd ym Mhorthaml pan alwodd Leland yno, ac yn 1536 rhoes gymaint croeso i'r esgob Rowland Lee fel na flinai hwnnw ei glodfori wrth ei feistr Thomas Cromwell . Gŵr i'w feithrin ydoedd, meddai'r esgob wrth Cromwell yn 1538 . Ar 17 Rhagfyr y flwyddyn honno gwnaethpwyd ef yn ganghellor a rhysyfwr arglwyddiaethau a maenorau Brycheiniog , y Gelli , Cantreselyf , Pencelli , ac Alexanderston , swyddi a ddaliodd hyd 7 Gorffennaf 1546 pan roes hwynt i fyny er mwyn ei fab Roger . Yr oedd yn siryf Brycheiniog 1540-1 , ac urddwyd ef yn farchog yn 1542 . Ym mis Hydref 1546 cafodd warchodaeth Joan ac Elizabeth , chwiorydd a chydaeresau Henry Myle , Newcourt . (Priododd Joan ei ail fab, Walter Vaughan , Moccas , ac Elizabeth ei ŵyr, Rowland Vaughan .) Bu f. cyn 1553 , oherwydd yr oedd ei wraig Catherine ferch Jenkin Havard yn weddw ac yn byw yn y Peytyn Gwyn pan gafodd bardwn ar 6 Mai y flwyddyn honno am gefnogi llofruddiaeth. Yr aer oedd ROGER VAUGHAN , a urddwyd yn farchog yn 1549 . Yr oedd ef yn siryf Brycheiniog yn 1551/2 , ac ar gomisiwn archwilio llestri'r eglwysi ym Mrycheiniog a sir Henffordd , 1553 . Cafodd le ar rôl pardwn y frenhines Mari , 1 Rhagfyr 1553 , a chafodd stiwardiaeth cestyll ac arglwyddiaethau Huntingdon a Cheintun (‘ Kington ’), 6 Mai 1554 . Ar rôl pardwn Elisabeth , 1559 , cysylltir ef â Phorthaml a Newcourt . Ef oedd un o'r comisiynwyr a fu'n archwilio'r goeden ag arwydd y groes arni yn Sain Dunwyd ar ran y Cyngor Cyfrin , 5 Mehefin 1561 . Yr oedd yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog 1553-62 , pan gymerwyd ei le gan ei fab, Rowland Vaughan , a thrachefn yn 1571 . Yn y cyfamser, o 1562 i 1567 , bu'n eistedd dros fwrdeisdref Aberhonddu . Yr oedd wedi marw cyn 31 Mawrth 1585 pan ganiatawyd gweinyddu ei stad. Bu iddo nifer o blant o'i wraig Catherine , ferch Syr George Herbert , Abertawe . Bu'r hynaf, Watkin , farw'n ddiblant, ac i Catherine , merch yr ail fab, ROWLAND VAUGHAN ( aelod seneddol Aberhonddu , 1559-62 , a sir Frycheiniog , 1562-7 ; gellir casglu iddo ef farw cyn yr etholiad seneddol nesaf), yr aeth y stad. Priododd Catherine Syr Robert Knollys , aelod seneddol dros sir Frycheiniog , 1588-1603 . Eu hetifeddes hwy a briododd bennaeth teulu'r Fychaniaid , Syr CHARLES VAUGHAN , Dwnrhefn (‘ Dunraven ’) — gw. Vaughan (Teulu), Brodorddyn . ROGER VAUGHAN , Talgarth , oedd trydydd mab Syr Roger Vaughan . Ei wraig ef oedd Frances , ferch anghyfreithlon Thomas Somerset , a briododd, wedi ef, William Vaughan , Tre'r Tŵr . ROGER VAUGHAN oedd etifedd y Roger Vaughan uchod, a phriododd ef, yn 1608 , Ann , ferch Paul Delahaie , Alltyrynys .

Llyfryddiaeth:

  • Jones , The Illustrated History and Biography of Brecknockshire , 1886 , ii, 340-1;
  • G. T. Clark , Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae , 1886 , 241-2, ond yn anghywir;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2915;
  • Calendar of Patent Rolls . Record Publication, 1891 ff ;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication ;
  • W. A. Shaw , Knights of England , 1906 ;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 ;
  • N.L.W., Castell Gorfod deeds.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth