Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VAUGHAN , JOHN ( 1663 - 1722 ), Cwrt Derllys , Caerfyrddin , diwygiwr cymdeithasol a chrefyddol ; mab John Vaughan , Derllys ( 1624 - 1684 ), bargyfreithiwr , a Rachel , merch Syr Henry Vaughan , Derwydd , sir Gaerfyrddin ; g. yn y flwyddyn 1663 . Ei dadcu ar ochr ei dad oedd brawd John Vaughan , y Gelli Aur , iarll 1af Carbery ( gw. yr ysgrif ar y teulu ). Addysgwyd ef, yn ôl pob tebyg, yn ysgol ramadeg Caerfyrddin . Ar 6 Hydref 1692 priododd Elizabeth , ferch Thomas Thomas , Meidrym , a'i wraig Elizabeth (gynt Protheroe ) , cyfnither Lucy Walter [q.v.] , mam dug Mynwy .

Yn ystod 20 mlynedd olaf ei fywyd John Vaughan oedd arweinydd bywyd crefyddol ac addysgol sir Gaerfyrddin . Gyda chefnogaeth y S.P.C.K. , gwnaeth ef a'i gyfaill Syr John Philipps [q.v.] , Castell Pictwn , sir Benfro , y ddwy sir hon yn llwyddiannus dros ben yn y fath bethau. Talodd John Vaughan sylw arbennig i sefydlu ysgolion elusennol a llyfrgelloedd ac i ddosbarthu llenyddiaeth grefyddol Gymraeg . Ef oedd arloesydd llyfrgelloedd rhyddion a llyfrgelloedd i blant ; cefnogodd roddion arian o'r sir i dalu am addysg plant tlodion , a chymerai ddiddordeb neilltuol mewn tlotai ac mewn gwella cyflwr carcharau . Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd gweddi deuluol ym mhob cartref. Ef oedd maer tref Caerfyrddin am y flwyddyn 1710-11 , a bu'n aelod o gyngor y dref o 1707 hyd 1722 . Ei ferch, Bridget Bevan [q.v.] , oedd prif noddwr yr ysgolion cylchynol Cymraeg . Bu f. ei wraig yn 1721 a chladdwyd hi yn eglwys Merthyr ; bu yntau f. 16 Tachwedd 1722 , a'i gladdu yn eglwys Llanllwch , sir Gaerfyrddin .



Dilynodd ei frawd hynaf, RICHARD VAUGHAN ( 1653 - 1724 ), ei dad yn y gyfraith a bu'n feinciwr a thrysorydd Gray's Inn , aelod seneddol dros dref Caerfyrddin ( 1685-1724 ), cofiadur ( 1683-6 , 1688-1722 ), a phrif ustus siroedd Caerfyrddin , Aberteifi , a Phenfro . Priododd Arabella Philipps , Castell Pictwn , ac yr oedd felly yn frawd-yng-nghyfraith i Griffith Jones , Llanddowror .

Llyfryddiaeth:

  • A Chapter in English Church History; S.P.C.K. Minutes and [Abstracts of] Correspondence, 1698–1704 , 1888 (Llundain);
  • cofnodion cyngor tref Caerfyrddin (Caerfyrddin a Ll.G.C.);
  • ‘The Charity of John Vaughan’ ( Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 26);
  • Mary Clement , ‘Hanes y S.P.C.K. yn Sir Gaerfyrddin,’ 1700 - 50 (traethawd M.A., 1940);
  • Robert Harrison , Some Notices on the Stepney Family. MS. notes , Llundain, 1870 , 1870 ;
  • William Spurrell , Carmarthen and its neighbourhood notes topographical and historical , Caerfyrddin, 1860 (ail arg., 1879 );
  • D. Lleufer Thomas , ‘The Vaughans of Golden Grove,’ yn Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Thomas Shankland , ‘Sir John Philipps,’ Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1904-5 ;
  • Francis Jones , ‘The Squires of Hawksbrook,’ Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1937 ;
  • W. Moses Williams , ‘The Friends of Griffith Jones ,’ Y Cymmrodor , 1939 ;
  • Mary Clement , ‘John Vaughan, Derllys, a'i Waith,’ Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1942 ;
  • Lord George Scott , Lucy Walter wife or mistress , Llundain, 1947 (London, 1947 ).

Awdur:

Dr Mary Clement, Ph.D., Llanelli / Aberystwyth