VAUGHAN, HENRY (1621-1695), bardd

Enw: Henry Vaughan
Dyddiad geni: 1621
Dyddiad marw: 1695
Priod: Elizabeth Vaughan (née Wise)
Priod: Catherine Vaughan (née Wise)
Rhiant: Thomas Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awduron: Herbert Gladstone Wright, Robert Thomas Jenkins

O deulu Vaughan, Tre'r Tŵr (gweler yr ysgrif arnynt); ganwyd yn Trenewydd (Newton), sir Frycheiniog, ar ddyddiad na ellir bod yn sicr ohono, yn 1621 i bob golwg. Cafodd ei addysgu gan Matthew Herbert, rheithor Llangattock. Ymddengys iddo fynd i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1638, eithr ni chymerodd radd yno. Tua dwy flynedd wedi hynny anfonwyd ef gan ei dad i Lundain i astudio'r gyfraith. Oherwydd i'r Rhyfel Cartrefol dorri allan galwyd ef yn ôl i'w gartref a bu am gyfnod yn ysgrifennydd i Syr Marmaduke Lloyd, barnwr. Y mae lle i gredu iddo ymladd gyda phlaid y brenin. Gwyddys ei fod yn ôl yn ei gartref erbyn 1647. Tua'r flwyddyn 1650 cafodd dröedigaeth at grefydd o dan ddylanwad George Herbert. Cryfhawyd yr ymlyniad hwn wrth grefydd gan farwolaeth ei frawd William, a dwysaodd afiechyd Henry Vaughan ei hunan yr argraff. Fel Brenhinwr pybyr gofidiai'n fawr oblegid digwyddiadau gwleidyddol ei gyfnod, eithr câi beth diddanwch yng ngolygfeydd Dyffryn Wysg. Troes i ddarllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin, a dechreuodd hefyd ymarfer fel meddyg. Priododd ddwywaith - (1) Catherine Wise, a (2) Elizabeth, chwaer y wraig gyntaf. Bu farw 23 Ebrill 1695 a chladdwyd ef yn Llansantffraid.

Prif weithiau Henry Vaughan oedd Poems, 1646; Silex Scintillans, 1650; Olor Iscanus, 1651; The Mount of Olives, 1652; Flores Solitudinis, 1654; a Thalia Rediviva, 1678. Cyhoeddodd Gwasg Gregynog ei Poems yn 1924, ac yn 1938 ei gyfieithiad o Guevara, ' Praise and Happinesse of the Countrie-Life ' (gweler Olor Iscanus). Yr oedd Vaughan yn ddwyieithog a cheir olion dylanwad Cymraeg ar ei farddoniaeth; y mae'r farddoniaeth honno hefyd yn adlewyrchu ei gariad tuag at ei ddyffryn genedigol tawel. Yn ei hoffter o gymuno ar ei ben ei hun â natur, ac ailfyw ei atgofion am ei blentyndod a'i ieuenctid, y mae'n rhagflaenydd i William Wordsworth.

Brawd (efell) iddo oedd THOMAS VAUGHAN (1621 - 1666), alcemydd a bardd, y mae ysgrif arno yn y D.N.B. a llawer o'i hanes yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iii, 207, ac yn llyfr F. E. Hutchinson ar Henry Vaughan (yn arbennig yn pen. xi, ond chwilier y fynegai hefyd). Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ddiwedd 1638, graddiodd yn 1642, ond nid oes gofnod swyddogol yn cadarnhau Anthony Wood pan ddywed hwnnw iddo gael ei ethol yn gymrawd (gweler Hardy, Jesus College, 97-8, a'r rhestr ar ddiwedd y llyfr). Penodwyd ef yn rheithor Llansantffraid (ei blwyf genedigol) tua 1644 - y mae ' 1640 ' Theophilus Jones yn rhy gynnar. Ond aeth i Rydychen i ymuno â Siarl I, a bu'n ymladd drosto yn y rhyfel. Am hyn, a hefyd am anghymedroldeb ac am ei absenoldeb maith o'i blwyf, bwriwyd ef allan o'i fywoliaeth gan ddirprwywyr y Senedd yn 1650 (Richards, Puritan Movement, 50-2, a Religious Developments, 490). Yn Rhydychen, ac wedyn yn Llundain, ymroes i astudio alcemeg. Bu farw 27 Chwefror 1665/6 yn Albury yn sir Rhydychen, a chladdwyd yno. Yn ei syniad ef ei hun, athronydd ydoedd - ond athronydd a ymwrthodai'n bendant â dysgeidiaeth Aristotlys a Descartes, oblegid math o gyfrinydd oedd ef, a threiddio drwodd i ddirgelion natur yn hytrach na chwilio am 'y maen gwerthfawr' oedd nod ei arbrofion alcemegol. Cyhoeddodd ryw wyth o lyfrau dan y ffugenw ' Eugenius Philalethes ' (felly cymysgir ef yn fynych â chyfriniwr arall, a'i galwai ei hunan yn ' Eirenaeus Philalethes'), a phriodolir llyfrau eraill iddo. Sgrifennodd hefyd gryn swm o farddoniaeth, yn Lladin ac yn Gymraeg. Nid yn unig fe'i cyfrifai ei hunan yn Gymro, ond fe ddywed mai Cymraeg oedd ei famiaith (Hutchinson, op.,cit., 26).

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.