Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VAUGHAN , EDWARD (bu f. 1661 ), ‘Master of the Bench of the Inner Temple’ . Ceir manylion pur lawn am ei yrfa yn yr erthygl gan Rees L. Lloyd a enwir isod; braslun byr sydd yma, felly, o'r hyn a geir yn honno. Pedwerydd mab ydoedd i Owen Vaughan , Llwydiarth , sir Drefaldwyn , a'i wraig Catherine , unig aeres Maurice ap Robert , Llangedwyn — gw. yr erthygl ar deulu Vaughan , Llwydiarth . Fel ei dri brawd hŷn — John Vaughan , Syr Robert Vaughan , a Roger Vaughan — aeth i'r Inner Temple , lle y derbyniwyd ef 12 Tachwedd 1618 — ond nis galwyd i'r Bar hyd 17 mlynedd yn ddiweddarach. Bu â chyfran mewn cyfres o achosion cyfreithiol a barhaodd am tua 30 mlynedd — y tro cyntaf i gyd pan hawliodd ef stad yn siroedd Trefaldwyn , Meirionnydd , a Dinbych , a drosglwyddasid iddo gan ei frawd, Syr Robert Vaughan , drwy ddogfen gyfreithiol ym mis Chwefror 1622 , a gweddw Syr Robert , sef Catherine , ferch William Herbert , arglwydd Powis , yn gwrth-hawlio. Ym mis Chwefror 1625/6 dewiswyd ef yn aelod seneddol dros Feirionnydd . Yr oedd o blaid y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol , ac arweiniodd hynny ef i ychwaneg o helynt — plaid y brenin yn ei gyhuddo o amryw droseddau, yn eu plith iddo wrthwynebu y Commission of Array a anfonwyd i sir Ddinbych yn haf 1642 . Ym mis Hydref 1646 etholwyd ef i'r Senedd dros sir Drefaldwyn ; ar ôl hynny, hefyd, daeth rhagor o dreialon i'w ran. Ar 6 Rhagfyr 1648 cymerwyd ef i'r ddalfa yn ‘ Pride's Purge ’ a'i gadw yng ngharchar hyd y deuddegfed dydd o'r mis; gorfu iddo ateb wedyn i ychwaneg o achwynion. Wedi marw Oliver Cromwell daeth amgenach tro ar bethau iddo. Ym mis Ionawr 1658/9 etholwyd ef eilwaith dros sir Drefaldwyn ; ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, sef 1659 , daeth yn ‘ Associate to the Board ’ yn yr Inner Temple . Hyd yn oed wedi'r Adferiad daethpwyd ag ychwaneg o gyhuddiadau yn ei erbyn eithr ni pharodd y rheini iddo fethu cael ei ethol dros sir Drefaldwyn ym mis Mai 1661 . Bu f. yn Llundain ddiwedd y flwyddyn honno a chladdwyd ef yn y Temple Church ar 8 Hydref . Nid oedd yn briod.

Llyfryddiaeth:

  • Rees L. Lloyd , ‘Welsh Masters of the Bench of the Inner Temple,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am 1938 (cyhoeddwyd 1939), a'r cyfeiriadau a roddir yno.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth