Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VAUGHAN , EDWARD (bu f. 1522 ), esgob Tyddewi . Brodor o Ddeheubarth , efallai, oedd Vaughan , a addysgwyd yng Nghaergrawnt , lle y graddiodd yn LL.D. Penodwyd ef i eglwys S. Mathew , Friday Street , Llundain , 21 Mehefin 1487 , a bu'n ddiweddarach yn ficer Islington , yn brebendari Reculverland , 15 Ebrill 1493 , a Harleston , 16 Tachwedd 1499 , yn eglwys S. Paul , yn ogystal â bod yn drysorydd yr eglwys gadeiriol honno, ac felly'n brebendari Bromesbury . Wedi ei benodi'n archddiacon Lewes yn 1509 , cysegrwyd ef hefyd yn esgob Tyddewi , 22 Gorffennaf 1509 , ar sail darpariaeth a wnaed gan y pab , 13 Ionawr 1509 . Tra'n esgob ymgymerth Vaughan â chynlluniau pensaernïol gwych yn ei eglwys gadeiriol ac ym mhlasau'r esgob yn Llantyfai a Llawhaden . Bu f. fis Tachwedd 1522 a chladdwyd ef yn Nhyddewi yng nghapel hardd y Drindod Santaidd a godasid ganddo.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Archaeologia Cambrensis , II, xiii, 67; V, xv, 223-6;
  • Browne Willis , A survey of the cathedral church of St. David's, and the edifices belonging to it, as they stood in the year 1715. To which is added, some memoirs relating thereto and the country adjacent, from a ms wrote about the latter end of Queen Elizabeth's reign. Together, with an account of the arch-bishops, bishops, precentors, chancellors, treasurers, and arch-deacons of the see of St. David's , 1717 , 15-22, 117-8;
  • The Episcopal Registers of the Diocese of St. David's, 1397–1518 . Cymmrodorion Record Series 6, 1917–20 , ii, 783 ff., iii, 126-9;
  • Jones a Freeman , The History and Antiquities of St. David's , a , 1856

Awdur:

Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe