Un o gyndadau y teulu oedd WILLIAM AP JENKIN (neu Herbert ) , arglwydd Wern-ddu , sir Fynwy , yn 1353 ; ef hefyd oedd cyndad teulu Proger , Wern-ddu ; Jones ( Herbert yn ddiweddarach ), Treowen a Llanarth ; Powell , Perthir ; Hughes , Cillwch ; a Morgan , Arkstone . Gan y rhoddir manylion am deulu Courtfield mewn llyfrau achau, e.e. Burke , Landed Gentry , nid oes angen cyfeirio yma ond at rai aelodau ohono.
Yn 1562 prynwyd maenor Welsh Bicknor gan JOHN AP GWILYM . Daeth ei ferch a'i aeres ef, Sibylla , yn wraig JAMES VAUGHAN , a oedd yn disgyn o Howell ap Thomas , Perthir , ac felly daeth y maenor yn eiddo aelod o dylwyth yr Herbertiaid . Priododd WILLIAM VAUGHAN (bu f. 1601 ), mab James Vaughan a Sibylla , Jane ( Joan ) , merch (ac aeres , maes o law) Richard Clarke , Wellington , sir Henffordd . Ceir enw Jane ( Joan ) yn aml yn rhestrau'r Gwrthodwyr Catholig (‘ Recusants Rolls ’) rhwng 1592 a 1619 ; ceir hefyd enwau aelodau eraill o dylwyth y Fychaniaid yn y rhestrau. Cyfeirir at JOHN VAUGHAN (bu f. 1639 ), mab William Vaughan a Jane ( Joan ) , fel y Vaughan cyntaf o Courtfield . Yr oedd THOMAS VAUGHAN , brawd iau William Vaughan , yn offeiriad pabaidd ; ordeiniwyd ef, pan oedd dros y môr, gan Giffard , archesgob Rheims . Anfonwyd ef i'r genhadaeth yn Lloegr , Bu f. c. 1650 yng Nghaerdydd ar ôl dioddef amser caled ar fwrdd llong.
Heblaw maenor Welsh Bicknor cafodd JOHN VAUGHAN ( 1676? - 1754 ) faenorau Ruardean , sir Gaerloyw , a Clyro , sir Faesyfed ; etifeddodd ef ar ôl ei ddau frawd, John Vaughan , Huntsham , a Richard Vaughan , Courtfield , a fu farw'n ddiblant. Priododd John Vaughan berthynas, sef Elizabeth , merch Philip Jones , Llanarth . Pan wnaed archwiliad gan y Senedd yn 1718 i werth tiroedd a ddelid gan Babyddion , hysbyswyd fod stadau John Vaughan mewn pedair sir yn werth £996. Yr oedd dau o feibion John Vaughan yn bleidwyr eiddgar i'r Ymhonnwr . Ymunodd y ddau â lluoedd yr Ymhonnwr (fel y gwnaeth David Thomas Morgan ), gan ymladd yn Culloden . Pan orchfygwyd y tywysog Charles ( Stuart ) ffodd y ddau frawd i Sbaen ; cyfrifwyd hwy yn wyr ar herw yn 1745 ac ni chynhwyswyd mo'u henwau hwy yn y pardwn cyffredinol a ddatganwyd gan y brenin Siôr II yn 1747 . Daeth William yn gadfridog ym myddin Sbaen . Bu Richard (a fu f. yn Barcelona 1795 ) hefyd yng ngwasanaeth brenin Sbaen . Yr oedd ef wedi priodi Sbaenes fonheddig â pheth gwaed Gwyddelig yn ei gwythiennau, a chafwyd saith mab a thair merch o'r briodas. Daeth un o'r meibion, sef WILLIAM VAUGHAN ( 1738 - 1796 ), yn aer i'w ewythr a fuasai farw heb etifedd yn 1780 (gan fod ei dad wedi colli ei hawliau pan ddifreiniwyd ef yn 1747 ). Dilynwyd William Vaughan , yntau ‘y pumed Vaughan , Courtfield ,’ gan ei fab WILLIAM MICHAEL THOMAS JOHN VAUGHAN (‘y chweched’), ac yntau, yn ei dro, gan ei fab hynaf, JOHN FRANCIS VAUGHAN ( 1808 - 1878 ), ‘y seithfed.’ Priododd ef Eliza Louisa , merch John Rolls , The Hendre , sir Fynwy . O'r briodas hon cafwyd HERBERT VAUGHAN , ‘ Cardinal Vaughan ,’ archesgob Westminster (isod); ROGER WILLIAM VAUGHAN , archesgob Sydney ; KENELM VAUGHAN , offeiriad , a dreuliodd lawer o'i amser yn Sbaen a Gogledd America ; JOSEPH VAUGHAN , O.S.B. , sylfaenydd a phrior mynachlog Benedictaidd Fort Augustus ; BERNARD VAUGHAN (‘ Father Bernard Vaughan ’), a ddaeth yn bregethwr adnabyddus gyda'r Jesiwitiaid ; a JOHN VAUGHAN , cydesgob Salford . Yr oedd i'r brodyr hyn bedair chwaer yn lleianod .
Cyfrifir y cardinal Vaughan ( 1832 - 1903 ), archesgob Westminster , yn ‘wythfed Vaughan , Courtfield . Dilynwyd ef gan ei frawd FRANCIS BAYNHAM VAUGHAN ( 1844 - 1919 ), ‘y nawfed Vaughan , Courtfield ,’ ac yntau gan ei fab CHARLES JEROME VAUGHAN ( 1873 - 1948 ), ‘y degfed Vaughan , Courtfield .’ Bu ef yn dal y swydd o ‘ Camerario Segreto di Cappa e Spada ’ i'r pab Pius X . Brodyr iddo oedd HERBERT VAUGHAN , offeiriad , a FRANCIS VAUGHAN (bu f. 1935 ), a wnaethpwyd yn esgob Menevia yn 1925 ; yr oedd iddynt chwaer yn lleian . Trosglwyddwyd dogfennau helaeth a phwysig Courtfield i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1949 . (Gw. N.L.W. Annual Report , 1948-9 .)
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth