Dyma ach Griffith Vaughan (1588) yn ôl Dwnn: Griffith ap Richard ap Rhys ap William ap Griffith, ‘sgweier o gorff Henry VII’ a thrydydd mab Griffith ab Einion ap Griffith ap Llewelyn ap Cynwrig ab Osbwrn Wyddel. Ceir y disgyniadau o 1588 ymlaen mewn llyfrau a llawysgrifau achau: e.e. gan J. E. Griffith, Pedigrees, 279. Ceir yn Arch. Camb., IV, ii, 1-16, olwg gyffredinol ar hanes y teulu gan W. W. E. Wynne, Peniarth, wedi ei seilio (gyda nodiadau gwerthfawr) ar gopi gan Angharad Llwyd [q.v.] o lawysgrif a ysgrifennwyd yn 1770 gan William Vaughan, ‘penllywydd’ y Cymmrodorion (isod). Fel y dengys Edward Breese (Kalendars of Gwynedd), bu llawer o'r Fychaniaid yn uchel siryfion (sir Feirionnydd a sir Gaernarfon), yn aelodau seneddol, ac yn ‘Custodes Rotulorum.’ Daeth RICHARD VAUGHAN yn gwnstabl castell Harlech ym mis Gorffennaf 1704; hanner canrif yn ddiweddarach dewiswyd ei nai ef, EVAN LLOYD VAUGHAN (bu f. 1791), i'r un swydd.
Yr oedd WILLIAM VAUGHAN (bu f. 1633) yn siryf sir Gaernarfon yn 1613 a 1632; ailadeiladodd ef Plas Hên, Llanystumdwy, 1617, ac adeiladodd y gatws yng Nghorsygedol yn 1630. Yr oedd yn gyfaill i Ben Jonson, y bardd, a anfonodd gopi o'i weithiau argraffedig yn rhodd iddo, a cheir llythyr oddi wrth Vaughan at James Howell [q.v.] yn Epistolae Ho-Elianae. Mab iddo ef oedd RICHARD VAUGHAN (bu f. 1636), yr aelod seneddol dros Feirionnydd a ddaeth mor adnabyddus yn Llundain oblegid ei fod mor eithriadol o dew. Priododd Richard Vaughan Anne, ferch (Syr) John Owen, Clenennau [q.v.]. Priododd WILLIAM VAUGHAN (bu f. 1669), ei fab yntau, Anne, ferch teulu Nannau, uniad rhwng dau deulu yr oedd eisoes gryn gyfathrach rhyngddynt. Bu f. eu mab hynaf hwy, GRIFFITH VAUGHAN, yn 1697 heb etifedd; eithr cadwyd y llinach ymlaen ym mherson ei frawd RICHARD VAUGHAN (bu f. 1734). Trwy ei wraig Margaret, merch Syr Evan Lloyd, Bodidris, sir Ddinbych, daeth Richard Vaughan yn dad WILLIAM VAUGHAN (1707-1775; isod). Daeth ei wraig ef, Catherine ferch Hugh Nanney, yn unig etifeddes Nannau maes o law. Unig blentyn William Vaughan ac Anne (Nanney) oedd ANN VAUGHAN, a briododd David Jones Gwynne, Taliaris, sir Gaerfyrddin. Ann oedd yr aeres olaf yn y llinell uniongyrchol; bu hithau f. 16 Mawrth 1758, heb etifedd. Cynrychiolydd gwrywol diwethaf y teulu oedd EVAN LLOYD VAUGHAN, brawd William Vaughan, ac aelod seneddol dros Feirionnydd. Pan fu ef f., ar 4 Rhagfyr 1791, aeth Corsygedol a'r stadau a oedd yn gysylltiedig â hi yn eiddo ei nith, Margaret, gwraig Syr Roger Mostyn, barwnig.
Yn ystod y canrifoedd bu aelodau o'r teulu yn noddwyr llenyddiaeth Gymraeg a cheid croeso yng Nghorsygedol i feirdd yn clera; gw. Mostyn MS. 165. Fel y gellid disgwyl canwyd llawer i'r teulu gan y beirdd a adnabyddir wrth yr enw ‘Phylipiaid Ardudwy’[q.v.] . Yr oedd eu cartrefi hwynt yn weddol agos i Gorsygedol. Canodd Siôn Phylip (bu f. 1620) tuag 16 o gywyddau, etc., i'r teulu; canodd Gruffydd Phylip (bu f. 1666), mab Siôn Phylip a ‘bardd teulu’ Corsygedol, tua 19; canodd Phylip Siôn Phylip (bu f. c. 1677), mab arall i Siôn Phylip, un cywydd. Y bardd a oedd yn byw agosaf at Gorsygedol ydoedd William Phylip, Hendrefechan (bu f. Chwefror 1670); bu ef yn helpu Siôn Bryncir i ysgrifennu ‘Cywydd cyngor’ i nai hwnnw, sef i William Vaughan. Y mae i un cywydd gan Gruffydd Phylip bennawd diddorol — ‘I Wmffire Davies o Landyfrydog y Mon dros Rich: Vn o Gorsygedol i ofyn 100 o gywydde D[afydd] ap G[wilym].’ Gwyddys bod rhai o'r Fychaniaid yn casglu llawysgrifau a llyfrau. Pan ddaeth llawysgrifau Cymraeg Plas Mostyn (sir y Fflint) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1918 yr oedd yn eu mysg o leiaf 10 (os nad 11) o gyfrolau a fuasai gynt yng Nghorsygedol, sef Mostyn MSS. 115, 130, 131, 144 (‘Llyfr Coch Nannau’), 145 (‘Llyfr Gwyn Corsygedol), 147, 160, 162, 163 (‘Y Llyfr Gwyrdd’), 164, a 165 (y llawysgrif hon yn bwysig o safbwynt hanes y teulu). Cadwyd y traddodliad llenyddol ymlaen yn gryf gan William Vaughan (1707-1775), aelod seneddol dros sir Feirionnydd o 1734 hyd 1768, arglwydd-raglaw a ‘Custos Rotulorum’ y sir honno, a ‘Phenllywydd’ cyntaf Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Cawsai ei addysg mewn ysgolion yng Nghaer a Llundain ac yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt. Pan gyhoeddodd Huw Jones (o Langwm) ei Diddanwch Teuluaidd yn Llundain yn 1763, i William Vaughan y cyflwynodd y gwaith. Ceir hefyd lawer o gyfeiriadau at Vaughan yn llythyrau Morysiaid Môn. Yn dilyn yn union yn y Diddanwch … ar ôl ‘Caniad y Gog i Feirionydd,’ cân adnabyddus Lewis Morris, ceir trosiad Saesneg o waith William Vaughan. Argraffwyd apêl Gymraeg Vaughan at etholwyr Meirionnydd yn etholiad 1747 gan Edward Breese yn ei Kalendars of Gwynedd.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth