VAUGHAN (TEULU), Brodorddyn ('Bredwardine'), sir Henffordd.

Dyma brif gainc y Fychaniaid a olrheiniai eu tras, drwy WALLTER SAIS, i FOREIDDIG WARWYN (iddo ef y priodolid pais arfau'r teulu, sef tri phen bachgen gyda sarff yn gwlwm am wddf pob un), ac yna i DRYMBENOG AP MAENARCH, arglwydd Brycheiniog. Dechreuasai'r teulu grynhoi eiddo yn Llechryd (Llechryd yn Elfael, nid yng Ngheredigion fel y bernir yn gyffredin) a Chwm Du cyn i Wallter Sais ennill clod a chyfoeth yn rhyfeloedd Edward III. Yn y llyfrau achau, dywedir iddo briodi aeres Syr Walter Bredwardine ac ymgartrefu ym Mrodorddyn, a'i ddilyn gan ei fab, RHOSIER HEN, a briododd ferch Syr Walter Devereux, a'i ŵyr, RHOSIER FYCHAN, a briododd Wladus ferch Dafydd Gam, ac a syrthiodd gyda'i dad-yng-nghyfraith wrth gadw einioes Harri V ar faes Agincourt, 1415. Yn ôl dogfen a wnaethpwyd yng Nghwm Du, 26 Tachwedd 1383, yr oedd gan Wallter Sais fab a elwid RHOSIER FYCHAN, a'i fam, Mallt ferch Ieuan ap Rhys, y pryd hwnnw yn wraig i Hywel ap William ap Jankyn, ac yn dal tir yn arglwyddiaeth Talgarth (Llyfrgell Caerdydd, dogfennau Brycheiniog 3). Y mae'n sicr i ROSIER FYCHAN adael tri mab o Wladus ferch Dafydd Gam - Watcyn, etifedd Brodorddyn, Thomas ap Rhosier - gweler teulu Vaughan, Hergest, a (Syr) Rhosier Fychan - gweler teulu Vaughan, Tre'r Tŵr - ac i'r rheini gael eu magu gyda'u brodyr unfam, William Herbert, iarll Penfro (bu farw 1469), a Syr Richard Herbert (bu farw 1469), meibion Syr William ap Thomas, Rhaglan (bu farw 1446). Bu farw Gwladus ferch Dafydd Gam yn 1454. Canodd Hywel Swrdwal neu Hywel Dafi farwnad iddi ('o waith aur a myrr a thys'). Lladdwyd WATCYN FYCHAN gan saeth yn Henffordd yn ôl marwnad Hywel Swrdwal iddo ('y mae utcorn am Watcyn'). Nid yw'r farwnad yn ategu tybiaeth Evans (Wales and the Wars of the Roses, 128-9) mai ym mrwydr Mortimer's Cross y bu hyn. Ei wraig oedd Elisabeth ferch Syr Harri Wgan. Disgrifir ef yn y llyfrau achau fel arglwydd Brodorddyn, Y Cwm, Tir yr Hawlff (Tir-Ralff), y Llechryd, a'r Gorred. Cofnodir pymtheg o blant iddo. Dylid cyfeirio at yr ail fab, William Fychan, Rhydhelig, y dywedir gan Dr. John Dafydd Rhys fod traddodiad yn y teulu mai ef a laddodd iarll Warwig pan giliai'r teyrnwneuthurwr hwnnw yn llechwraidd o faes Barnet, 1471. Ystyrid ef yn bencampwr ar faes ymladd, heb ei debyg ar ôl ei ewythr Thomas ap Rhosier, Hergest. Bu ar un cyfnod yn gwnstabl castell Aberystwyth. Canwyd ei glodydd gan Lewis Glyn Cothi ('Caer Ystwyth dylwyth') a Dafydd Nanmor ('Lloegr gronn hyd Aeron'). Canodd Lewis Glyn Cothi hefyd i LEWIS AP GWATCYN gan ei alw yn Roland Llanbedr-castell-Paen a Rhiwlen ('Trigaf i gymryd ragawr'). Yn ôl Lewis Dwnn, disgynnai Fychaniaid y Bontfaen, Sir Benfro, o fab arall, John Vaughan. Dywedir hefyd mai plentyn gordderch i Watcyn Fychan oedd John Vaughan, tad Syr Hugh Johneys, Marchog y Bedd, 1441. Etifedd Watcyn Fychan oedd Syr THOMAS VAUGHAN a briododd Elinor ferch Robert Whitney. Canodd Lewis Glyn Cothi ei foliant ef cyn ei urddo'n farchog ('Be delai bob rhai'). Ei etifedd oedd Syr RICHARD VAUGHAN a urddwyd yn farchog yn Tournai 13 neu 14 Hydref, 1513, ac a fu'n siryf sir Henffordd, 1530-1, a 1541-2. Ei wraig ef oedd Ann, ferch John Butler, etifeddes Dwnrhefn ('Dunraven') a Phembre. Symudodd y brif gainc yn awr o Frodorddyn a chawn WALTER VAUGHAN, etifedd Syr Richard, yn siryf Caerfyrddin yn 1557 ac yn byw yn Nwnrhefn yn 1584. Ail fab iddo oedd CHARLES VAUGHAN, o'r hwn y disgynnodd Fychaniaid Cwmgwili a Phenybanc. Etifedd Walter Vaughan oedd THOMAS VAUGHAN, siryf Caerfyrddin yn 1566 a 1570. Priododd ef Catherine ferch Syr Thomas Johnes, Abermarlais, a phrynodd stad Fallerstone, Wiltshire. Bu ei etifedd Syr WALTER VAUGHAN (urddwyd ef yn farchog 4 Mehefin 1603) farw 4 Mehefin 1637, a chladdwyd ef yn Ninbych y Pysgod. Dilynwyd ef gan ei fab, Syr CHARLES VAUGHAN a briododd Frances, merch ac aeres Syr Robert Knolles, Porthaml - gweler teulu Vaughan, Porthaml. Gwerthwyd Dwnrhefn gan ei fab yntau, THOMAS VAUGHAN, a fu farw yn ddietifedd, gan adael gweddill y stadau i'w chwaer, Bridget, a briododd, yn 1677, John Ashburnham, a wnaethpwyd, 20 Mai 1698, yn arglwydd Ashburnham. Yn y teulu hwn yr arhosodd y stadau am ddwy ganrif wedyn. Cymerwyd lle'r brif linach ym Mrodorddyn gan gainc arall o'r teulu, sef Fychaniaid Moccas - gweler teulu Vaughan, Porthaml. Y cyntaf ohonynt hwy a geir ym Mrodorddyn yw Watkyn Vaughan a ysgrifennodd lythyr oddi yno at yr arglwydd Burghley, 17 Rhagfyr 1584. Ei wraig ef oedd Joan ferch Miles ap Harri o'r Cwrtnewydd yn y Dyffryn Aur, a nith i Blanch Parry, morwyn y frenhines Elisabeth. Bu iddynt ddau fab, Harry yn etifedd Moccas a Brodorddyn, a Rowland yn etifedd y Cwrtnewydd. Y Rowland hwn oedd awdur y llyfr rhyfedd Most approved and long experienced waterworkes, 1610, sy'n cynnwys llythyr annerch maith at William Herbert, iarll Penfro. Ei wraig ef oedd Elisabeth ferch Rowland Vaughan, Porthaml. Yr oedd gwraig HARRY VAUGHAN yn ŵyres i Huw Lewis, Tre'r Delyn. Eu hetifedd oedd ROGER VAUGHAN (ymaelododd yn Rhydychen, 11 Mai 1604, yn 15 oed), a ailadeiladodd gastell Brodorddyn yn 1639-40. Priododd ei fab, HARRY VAUGHAN, Frances ferch Walter Pye, yn 1635. Wedi ei farw ef, priododd hithau Edward Cornewall, o deulu Stepyltwn, a mab i hwnnw a etifeddodd Moccas ac a brynodd Frodorddyn iddo'i hun.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.