TYDECHO
,
sant Celtig
o'r
6ed g.
y dywedir ei fod yn fab
Annwn Ddu ab Emyr Llydaw
. Nid oes fuchedd iddo'n wybyddus eithr cyfeirir ato ym muchedd
S.
Padarn
fel un o dri
arweinydd grwpiau o seintiau
a ddaeth o
Lydaw
i
Gymru
. Y mae rhai ysgolheigion yn amau ai
Llydaw
cyfandir
Ewrop
oedd yr ‘
Armorica
’ y cyfeirir ati gan ei bod yr un mor debygol mai ardal yn
ne-ddwyrain Cymru
, ardal a oedd yn enwog fel magwrfa saint, ydoedd. Pa fodd bynnag am hynny, y mae'n sicr i'r seintiau ‘
Llydewig
’ gyrraedd
gorllewin Cymru
dros y môr, gan fod eu heglwysi i gyd, ar y cyfan, yn nyffrynnoedd afonydd sydd yn rhedeg tua'r gorllewin i
Fae Aberteifi
. Canolwyd parch
Tydecho
yn ardal
Mawddwy
ac felly nid ydyw'n eithriad i'r rheol gyffredinol. Y mae parhad ei barch yn yr ardal hon yn nodedig — a barnu oddi wrth dystiolaeth llenyddiaeth yn unig. Cedwir yr hanes a'r traddodiad amdano dan
Dafydd Llwyd ap Llewelyn ap Gruffydd
[q.v.]
,
bardd
o'r
15fed g.
a oedd yn byw ym
Mathafarn
, heb fod ymhell o'r fan lle y dywedir i
Dydecho
ymsefydlu. Deallwn wrth ddarllen cywydd y
bardd
hwn i
Tydecho
i'r sant fyw bywyd
meudwy
gyda'i chwaer
Tegfedd
a'i fod yn cael ei boeni'n fynych gan
Maelgwn Gwynedd
, arch-elyn y seintiau. Yn y ganrif ddilynol ceir
bardd
arall,
Mathew
Brwmffield
[q.v.]
yn canu cywydd i
Dydecho
a dau blwyf
Mawddwy
ac yn cyfeirio at wyrth enwog yr adroddid ei chyflawni yn yr ardal honno gan y
sant
. Yr unig beth y gellir ei adrodd heddiw am
Dydecho
gydag unrhyw sicrwydd ydyw fod dosbarthiad yr eglwysi sydd yn parhau i ddwyn ei enw yn cydfynd â'r traddodiad iddo ef ac amryw gydymdeithion gyrraedd arfordir
Meirionnydd
dros y môr ac iddynt dreiddio i'r tir ac ymsefydlu yn ardal
Mawddwy
a'r holl wlad sydd erbyn heddiw yn ffurfio'r ffin deheuol rhwng siroedd
Meirionnydd
a
Threfaldwyn
.
Llyfryddiaeth:
-
The Lives of the British Saints
, iv, 283-5;
-
Wade-Evans
,
Welsh Christian Origins
, Rhydychen,
1934
,
1934
, pen. x;
-
E. G. Bowen
. ‘The Celtic Saints in Cardiganshire,’ yn
, i,
1950
.
Awdur:
Yr Athro Emrys George Bowen, M.A., F.S.A., (1900-83), Aberystwyth