Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



TURNER , WILLIAM ( 1766 - 1853 ), un o arloeswyr y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, etc. ; bedyddiwyd ef 23 Mawrth 1766 , chweched mab Henry a Jane Turner , a oedd yn byw ar stad fechan o'r enw Low Mosshouse , yn Seathwaite , yn ymyl Broughton-in-Furness , swydd Lancaster ; yr oedd gan Henry Turner brydles ar chwareli llechi Walmascar . Cafodd ei addysg o dan Robert Walker , ‘the wonderful Robert Walker ,’ offeiriad Seathwaite (a thad Mrs. Thomas Casson , Blaenddôl , Ffestiniog ). Clywodd am haenau o lechfaen yng Ngogledd Cymru a daeth ar daith gerdded i Eryri , ac yntau eto'n ddyn ieuanc. Trefnodd bartneriaeth gyda Williams , Pwllycrochan , Bae Colwyn , i weithio chwarel gerllaw Llanrwst ( Llanrhychwyn ?). Pan ddeallodd na thalai mo'r antur hon aeth i ardal Ffestiniog i archwilio posibiliadau, a thrawodd ar haen dda yn y Diffwys , Blaenau Ffestiniog . Perswadiodd ddau gyfaill iddo o swydd Lancaster , Thomas Casson a William Casson , i ymuno ag ef i weithio'r chwarel. Gwnaethpwyd hyn ac ymunodd Hugh Jones , Hengwrt Ucha , Dolgellau , â hwynt i ffurfio cwmni ‘ William Turner and Co. ’; am hanes pellach y cwmni gw. G. J. Williams , Hanes Plwyf Ffestiniog . Rhoddir manylion gan ei fab, Syr Llewelyn Turner (isod), yn ei Memories of Sir Llewelyn Turner , 1903 , am lwyddiant ymdrechion y tad i werthu ac allforio y llechi a gynhyrchid yn chwarel y Diffwys , a dywed hefyd i'r llwyddiant hwn beri i Thomas Assheton Smith [q.v.] gynnig partneriaeth iddo yn chwarel Llanberis , eithr ar yr amod ei fod yn dyfod i fyw yn y Parkia , gerllaw Caernarfon — yr hyn a wnaeth ( cyn 1812 ). Wedi hynny bu a fynnai Turner â chwareli llechi eraill ac â chloddfeydd mwyn yng Ngogledd Cymru . Pan oedd yn siryf sir Gaernarfon , 1823-4 , a Meirionnydd , 1832-3 , cysylltid ei enw â'r Garreg-fawr , Croesor . Bu f. fis Tachwedd 1853 .

Syr LLEWELYN TURNER ( 1823 - 1903 ); g. 11 Chwefror 1823 yn y Parkia (a'i fedyddio 26 Chwefror 1823 yn eglwys Llanfairisgaer ), mab William Turner a'i wraig Jane ( Williams ) ; yr oedd y fam o dylwyth Griffith Williams (bu f. 1672 ), esgob Ossory , Iwerddon [q.v.] . Yn ei Memories , a gyhoeddwyd pan oedd yn 80 mlwydd oed, rhydd atgofion diddorol am ei yrfa a'i gyfeillgarwch gyda bargyfreithwyr, barnwyr, gwŷr y môr, etc. Yr oedd yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a dinesig tref Caernarfon , ac yn ddiwyd iawn pan ymwelodd haint y colera â'r dref yn 1867 — dywed iddo lwyddo i glirio llawer o slymiau y dref honno (bu'n faer ddwywaith). Ef oedd sylfaenydd ( 1846 ) y Royal Welsh Yacht Club . Bu'n is-gwnstabl castell Caernarfon a gwnaeth lawer i atgyweirio a thacluso'r adeilad hwnnw. Bu am flynyddoedd yn wirfoddolwr gyda bywydfadau a llwyddodd i gael gan lawer o forwyr Caernarfon a'r cylch i ymuno â'r Royal Naval Reserve . Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1870 . Priododd, 1878 , Agnes , merch G. Bell . Bu'n siryf sir Gaernarfon , 1886-7 . Bu f. 18 Medi 1903 .

Llyfryddiaeth:

  • The Memories of Sir Llewelyn Turner , Llundain, 1903 , 1903 ;
  • Who's who? , 1903 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth