Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



TURNER , SHARON ( 1768 - 1847 ), cyfreithiwr a hanesydd ; g. yn Llundain 24 Medi 1768 a bu f. yno 13 Chwefror 1847 . Ymdrinir yn llawn yn y D.N.B. â'i yrfa ac â'i waith. Ei brif waith oedd ei History of England … to the Norman Conquest , 1799-1805 . Yng nghwrs y llyfr hwn (a dorrodd dir newydd yn ei bwnc) gwnaeth ddefnydd o hen farddoniaeth Prydain , ac ymosodwyd arno am hynny gan wŷr a amheuai ddilysrwydd y farddoniaeth honno. Atebodd yntau, yn 1803 , gan gyhoeddi A Vindication of the Genuineness of the Antient British Poems of Aneurin, Taliesin, Llywarch Hen, and Merdhin, with Specimens of the Poems . Ef oedd y cyntaf i drafod hynafiaeth y rhain, gan ddangos anwybodaeth yr amheuwyr; gw. John Morris-Jones , Taliesin (= Cymm. , xxviii). Y mae llythyrau a sgrifennwyd ganddo at William Owen Pughe yn y Llyfrgell Genedlaethol ( NLW MS. 13222-4 ); bu hefyd yn gohebu â John Hughes o Aberhonddu ( 1776 - 1843 , q.v.) , a rhoes ganmoliaeth i waith hwnnw.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor