TURNOR
,
DAVID
(
1751?
-
1799
),
clerigwr a diwygiwr amaethyddol
;
Mab
John
Turnor
,
Crugmawr
,
Llangoedmor
(a fu f.
1775
), o'i wraig
Margaret
Gyon
, merch
Ffynnon Coranau
,
sir Benfro
. Addysgwyd ef yn
Rhydychen
(ymaelodi yn
Christ Church
,
22 Mai 1767
, yn 16 oed,
B.A.
1771
,
M.A.
yng
Nghaergrawnt
)
a'i ordeinio'n
ddiacon
7 Mawrth 1773
, ac yn
offeiriad
,
21 Medi 1774
. Bu'n
gurad
Penbryn
a
Betws Ifan
,
sir Aberteifi
,
caplan
i
iarll Cawdor
,
rheithor
Rudbaxton
,
1790-7
,
deon gwlad
Daugleddau
,
1795
,
ficer
Penbryn
,
1796-9
, a
rheithor
Maenordeifi
,
1797-9
. Yr oedd yn
ustus heddwch
yng
Ngheredigion
, ac yn un o sefydlwyr y
Gymdeithas er Cefnogi Hwsmonaeth a Diwydrwydd
yn y Sir,
1790
, ac yn
fawr ei ddiddordeb mewn sychu tir a phlannu coed
. Yr oedd yn
gyd-awdur
A General View of Agriculture of the County of Cardigan
,
1794
, gyda
Thomas
Lloyd
,
Bronwydd
(gw.
Syr
T. D.
Lloyd
). Prynodd stad
Ffynnon Werfyl
yn
Llangrannog
, a
chododd blas
yno. Bu f.
7 Mawrth 1799
, a'i gladdu yn
Llangrannog
. Ei wraig (a fu f.
1802
) oedd
Catherine
ferch
William
Haygarth
,
rheithor
Enham
ac
Upton Grey
,
Hampshire
. Daeth ei frawd
JOHN
TURNOR
i fri ar y môr, a phan fu f. yn agos i'r
Prince of Wales Island
,
2 Ionawr 1801
, yn 42 oed, yr oedd yn
gapten
H.M.S. Trident
. Yr oedd brawd arall,
LEWIS
TURNOR
(ymaelododd yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
,
17 Rhagfyr 1777
, yn 20 oed),
mewn urddau
. Prynodd ef
Ffynnon Werfyl
,
1802
, a dilynodd ei frawd yn ei
ddiddordebau amaethyddol
gan danysgrifio at y
Gymdeithas Amaethyddol
, ac ennill ei gwobrau. Bu ef f.
1834
.
Llyfryddiaeth:
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
Cambrian Register
, tair cyfrol,
1795–1818
, iii, 177-81;
-
S. R. Meyrick
,
The History and Antiquities of the County of
Cardigan
, 1808; arg. arall, 1907
, ii, 177-9, 230-2;
- adroddiadau'r Gymdeithas Amaethyddol.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth