TURBERVILLE
,
EDWARD
(
c.
1648
-
1681
),
cam-dyst (‘informer’)
.
Dywedir fod ei dad yn hanfod o'r
Sger
, gerllaw
Porthcawl
,
sir Forgannwg
, eithr nid ef bioedd y stad, gan mai teulu
Loughor
oedd perchenogion honno y pryd hwnnw. Rhydd y
D.N.B.
fanylion gweddol lawn am ei yrfa anghlodforus. Daeth i'r amlwg mewn modd neilltuol ym mlynyddoedd y ‘
Popish Plot
’; ar wahân i'w ddechreuad nid oedd ond ychydig gysylltiad rhyngddo a
Chymru
. Bu f.
18 Rhagfyr 1681
.
Awdur:
Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr