Pan dorrodd y rhyfel allan (ac wedi iddo gymryd gofal bod ei safle yn ne-orllewin Cymru yn ddiogel), gwarchaeodd ar Ddinbych a'i chymryd yn 1460. Yna aeth i Ffrainc i geisio cymorth. Dychwelodd oddi yno gan lanio (y mae'n debyg) yn Aberdaugleddau a chyrraedd sir Henffordd mewn pryd i gymryd rhan ym mrwydr Mortimer's Cross (Chwefror 1461). Dihangodd o faes y frwydr yn niwyg a dull person arall, ac ymhen ychydig fe'i ceir yn ysgrifennu llythyrau o Ddinbych-y-pysgod yn ei ymdrech i geisio trefnu'r gwrthwynebiad yng Ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn yr oedd yn ffoadur yn ardal Eryri; oddi yno ffodd, wedi iddo gael ei orchfygu gerllaw Caernarfon, i Iwerddon, ac yn ddiweddarach, i Sgotland. Dychwelodd i Gymru dair gwaith cyn myned i'w alltudiaeth ddiwethaf yn Llydaw, a cheisiodd ailgreu gwrthwynebiad i Edward IV; y tro cyntaf a'r ail dro llwyddodd i ffoi o gyffiniau Harlech — ymddengys fod iddo gyfeillion ymysg rhai uchelwyr yn y rhan honno o'r wlad. Yng ngoresgyniad 1470 glaniodd eilwaith yng Nghymru eithr methodd â chyrraedd Tewkesbury mewn pryd i fod yn dyst i ail orchfygiad mawr y Lancastriaid. Y tro hwn ffodd i Gasgwent (Chepstow) lle yr ymddengysiddo ddyfod i gysylltiad o'r newydd â'i nai ieuanc, Harri Richmond (gw. Harri VII), â'i fam — (yr oedd Siaspar wedi ymgymryd â gofalu am Harri a'i addysgu, cyn i hwnnw syrthio am gyfnod i ddwylo'r Iorciaid) — ac ar ôl rhai anturiaethau a digwyddiadau llwyddodd i'w symud hwynt o Gymru i Lydaw. Nid oes ddadl nad Siaspar oedd prif gynghorydd Harri pan oedd hwnnw'n alltud yn Llydaw; y mae'n sicr iddo lanio gydag ef yn Aberdaugleddau yn 1485, ac iddo ymladd ym mrwydr Bosworth. Wedi hynny cafodd amryw anrhydeddau — yn eu plith ei wneuthur yn ddug Bedford a'i ddewis yn brif ynad (‘justiciar’) De Cymru. Yn 1486, rhoes Harri VII iddo arglwyddiaeth Morgannwg; cadarnhawyd hi iddo yn 1488, a daliodd hi hyd ei farw. A barnu oddi wrth y llu cyfeiriadau gwasgarog ato yn ystod y 10 mlynedd dilynol, treuliodd flynyddoedd ei henaint fel gwladweinydd doeth a berchid yn fawr. Rhwng 1483 a 1485 priododd â Catherine Woodville, eithr ni bu blant o'r briodas. Bu f. ar 21 neu 26 Rhagfyr 1495, ac os cafodd ei ddymuniad, fel y mynegwyd hwnnw yn ei ewyllys, fe'i claddwyd yn abaty Keynsham, gerllaw Bryste.
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth