TRAINER
,
JAMES
(
1863
-
1915?
),
chwaraewr pêl droed
;
g.
7 Ionawr 1863
yn
Brook Street
,
Wrecsam
, mab
James
Trainer
, a gadwai fusnes
pobydd bara
, a'i wraig
Mary Ann
Trainer
. Dysgodd grefft
gwneuthurwr cerbydau
. Dechreuodd trwy
chwarae yng nghlybiau pêl droed
ysgolion, ymunodd â chlwb pêl droed y
Wrexham Grosvenor
yn
1878
, a phan unwyd
hwnnw a
chlwb Wrecsam
yn
1879
chwaraeai
Trainer
fel ‘
canolwr canol
.’ Perswadiwyd ef i ddysgu
gofalu am y gôl
a bu'n chwarae yn nhîm
Wrecsam
pan drechodd hwnnw dim y
Druids
yng ngornest ddiwethaf tymor
1882-3
am y
Cwpan Cymreig
(‘the
Welsh Cup final
’). Yn ddiweddarach ymunodd âchlwb pêl droed
Bolton Great Lever
, a chlwb
Bolton Wanderers
, ac yn nes ymlaen â chlwb enwog
Preston North End
, pryd yr enillodd y clwb hwnnw
gwpan y ‘Football Association’
ac y daethant hefyd yn
bencampwyr
y ‘
League
’ yn
1888-9
. Chwaraeodd
Trainer
am y tro cyntaf dros
Preston
ar
13 Awst 1887
, a bu'n chwarae yn eu gornest ‘
League
’ gyntaf y tymor ar
8 Medi 1888
yn
Deepdale
; yr oedd yn aelod cyson o dîm
clwb Preston
a chwaraeai yn y gornestau mwyaf pwysig. Methodd
Trainer
â chwarae yng ngornest ddiwethaf y clwb am y cwpan, a chymerwyd ei le gan
Gymro
arall —
Dr.
R. H.
Mills Roberts
(
Bangor
, y
Corinthians
, a
Preston North End
). Bu'n chwarae dros
Gymru
20 o weithiau mewn gornestau rhyngwladol (chwe gwaith yn erbyn
Lloegr
, naw gwaith yn erbyn
Sgotland
, a phum gwaith yn erbyn
Iwerddon
).
Awdur:
George Geoffrey Lerry, Wrecsam