Cafodd J. M. Traherne ei addysg mewn ysgolion preifat cyn ei anfon i Goleg Oriel , Rhydychen , yn 1807 ; graddiodd yn 1810 . Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1812 ac yn offeiriad yn 1813 . Ni bu erioed â gofal plwyf arno, ond o 1844 hyd 1851 yr oedd yn ganghellor esgobaeth Llandaf . Dywed ef ei hunan nad oedd ganddo pan oedd yn efrydydd yn Rhydychen ddim medr yn y clasuron ac iddo felly fynychu dosbarthiadau lle y darlithid ar lysieueg, cemeg, ac anatomi. Fe'i dewiswyd yn gymrawd o'r Royal Society yn 1823 , eithr nid oes ond ychydig yn aros i ddangos pa waith gwyddonol a wnaeth ef ei hunan. Yn rhyfedd iawn, a chofio maint ei ddiddordeb mewn hynafiaethau, ni ddaeth yn gymrawd o'r Society of Antiquaries hyd y flwyddyn 1838 . Yr oedd yn gyfarwydd â llu o bobl o bwys ym mydoedd gwyddoniaeth a llenyddiaeth; gw. llythyrau oddi wrth amryw o'i ohebwyr yn NLW MS. 6598-6600 . Priododd 23 Ebrill 1830 â Charlotte Louisa , trydedd ferch Thomas Mansel Talbot , Margam ; sylwer iddo astudio llawer ar ddogfennau Margam (yn Ll.G.C. yn awr) a bod i'w wraig hefyd lawer o ddiddordeb mewn hanes a llenyddiaeth . Beth amser cyn ei briodas tynasai Traherne hen dŷ Coedriglan i lawr — tua'r flwyddyn 1823 , mae'n debyg — a chodi tŷ newydd yn is i lawr y bryn yn null y ‘Regency.'
Gadawodd lu o lyfrau nodiadau ar ei ôl. Cyhoeddodd lawer heb roddi ei enw wrtho neu o dan ffugenw; cynorthwyodd lawer o'i gyfeillion, e.e. L. W. Dillwyn [q.v.] , gyda'i Contributions to the History of Swansea , Y pethau pwysicaf a gyhoeddodd oedd ( a ) Lists of Knights of the Shire for Glamorgan , 1822 ; ( b ) Historical Notices of Sir Matthew Cradock, Knt. of Swansea, in the Reigns of Henry VII and VIII ( Llandovery , 1840 ) (gw. N.L.W. MSS. 6552-4 ); ( c ) Stradling Correspondence: A Series of Letters written in the Reign of Queen Elizabeth, with Notices of the Family of St. Donats Castle, Co. Glamorgan ( London , 1840 ) — yr olaf ydoedd ei waith pwysicaf; gw. N.L.W. MSS. 6555-6 . Yr oedd iddo ddiddordeb dwfn yn hanes a llenyddiaeth Cymru a gwyddai fwy na neb yn ei oes am hanes Morgannwg ; bu un o lawysgrifau Llywelyn Siôn o Langewydd ( N.L.W. MS. 6511 yn awr) yn eiddo iddo. Yr oedd ei gasgliad o lyfrau achau yn helaeth; daeth i'w feddiant gyfran helaeth o lawysgrifau William Davies , Cringell , hanesydd Morgannwg [q.v.] . Ymddengys i rai o'i lawysgrifau ddyfod yn eiddo ei gyfaill Syr Thomas Phillipps , Middle Hill , ac felly fynd i Lyfrgell Dinas Caerdydd ; daeth cyfran helaeth iawn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd (o blasty S. Hilary , sir Forgannwg ); am fanylion am y rhai sydd yn Ll.G.C. gw. N.L.W. Handlist of Manuscripts , ii, 188-98. Heblaw y cymdeithasau a enwyd eisoes yr oedd Traherne â chyswllt rhyngddo a llu o fudiadau addysgol a diwylliannol yng Nghymru ; am enghreifftiau o hyn gw. N.L.W. MSS. 6522-8, 6577-8, 6583, 6591 . Na chymysger ef â hynafiaethydd arall, G. G. T. Treherne [q.v.] .
Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr