TRAHAEARN ap CARADOG
(bu f.
1081
),
brenin Gwynedd
,
Dywedir ei fod yn fab i un o'r enw
Caradog ap Gwyn ap Collwyn
ac yn gefnder i
Bleddyn ap Cynfyn
[q.v.]
. Daeth yn
rheolwr
Arwystli
yn ei hawl naturiol ei hun. Gwelir yn ei yrfa ef
rhwng 1075 a 1081
un o'r esiamplau mwyaf trawiadol yn hanes
Cymru
o'r modd y gallai gŵr o bersonoliaeth feiddgar ac uchelgeisiol, un o
arglwyddi
llai
Cymru
, fedru cipio i'w ddwylo ei hun awdurdod brenhinol dros diriogaeth eang ar yr union adeg pan oedd amgylchiadau y llinachau pennaf yn bur isel. Pan fu
Bleddyn
f. yn
1075
cipiodd
Trahaearn
yr awenau yng
Ngwynedd
. Heriwyd ei awdurdod gan
Gruffudd ap Cynan
[q.v.]
, cynrychiolydd hen linach
Gwynedd
, a gorchfygwyd ef yn
Glyngin
ym
Meirionnydd
; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, fodd bynnag, adenillodd ei awdurdod ym
Mron-yr-erw
a gorfodi
Gruffudd
i fynd i alltudiaeth am yr ail dro yn
Iwerddon
. Yn
1078
aeth ar gyrch i
Dde Cymru
a lladd y
brenin
(
Rhys ab Owen
)
yn
Gwdig
. Gan fod diddordebau a oedd yn gyffredin i'r gwahanol lywodraethau
Cymreig
yn
cael eu bygwth, daeth
Gruffudd
a
Rhys ap Tewdwr
[q.v.]
yn gynghreiriaid maes o law a chyda'i gilydd gorchfygasant eu gelyn yn llwyr ym
mrwydr enwog Mynydd Cam
, a ymladdwyd yn
1081
.
Lladdwyd
Trahaearn
yn y frwydr honno. Gadawodd bedwar mab —
Meurig
,
Griffri
,
Llywarch
, ac
Owain
. Parhaodd ei ddisgynyddion i lywodraethu
Arwystli
hyd nes y gwnaeth
Gwenwynwyn
hi yn rhan o
Bowys
. Priododd ei ŵyres,
Gwladus
, ag
Owain Gwynedd
; mab iddi hi oedd
Iorwerth Drwyndwn
[q.v.]
, tad
Llywelyn Fawr
.
Llyfryddiaeth:
-
A History of Wales
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
History of Gruffydd ap Cynan
(1054–1137)
, 1910
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth