TOY, HUMFREY (bu farw 1575), marsiandwr yn nhref Caerfyrddin.

Enw: Humfrey Toy
Dyddiad marw: 1575
Priod: Jane ferch David ap David
Plentyn: Robert Toy
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: marsiandwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: William Llewelyn Davies

Argraffwyd Testament Newydd (Salesbury) a Lliver Gweddi Gyffredin (yr esgob Richard Davies) yn Llundain yn 1567 gan Henry Denham ' at the costes and charges of Humfrey Toy.' Er bod llyfrwerthwr pwysig yn Llundain o'r enw Humfrey Toy yn y cyfnod hwn - bu'n is-warden y ' Worshipful Company of Stationers ' - awgrymwyd mai ewythr y Llundeiniwr oedd y noddwr arbennig hwn, sef Humfrey Toy, Caerfyrddin, marsiandwr a chyweiriwr crwyn; cofier, serch hynny, i Salesbury fyw am gyfnod yn 1567 yn nhŷ Toy y Llundeiniwr. Heblaw y Testament a'r Llyfr Gweddi argraffwyd trydydd llyfr yn 1567 - 'Imprinted at London by Henry Denham for Humfrey Toy.' Y llyfr hwnnw oedd A playne and a familiar Introduction, teaching how to pronounce the letters in the Brytishe tongue, now commonly called Welshe. Ail argraffiad oedd hwn o waith gan Salesbury. Ar ddiwedd y rhagair, sydd yn annerch Humfrey Toy, ceir y geiriau hyn: ' Soiourning at your house in Paules Churchyard; the 6, of Maij, 1567. Your, assuredly, welwyller, W. Salesbury.' Rhaid felly benderfynu mai Toy Llundain oedd yn gyfrifol am y 'costes and charges.'

Ceir rhai manylion am Humfrey Toy, Caerfyrddin, a'i ewyllys yn Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society and Field Club, xi, 76-7. Y mae'n amlwg ei fod yn berchen llawer o eiddo yn nhref a Sir Gaerfyrddin. Byddai'n sicr o adnabod yr esgob Richard Davies pan oedd hwnnw'n byw yn Abergwili (sydd ar bwys Caerfyrddin), a daeth, yn ddiau, i adnabod William Salesbury, pan ddaeth y cyfieithydd i aros gyda'r esgob. Gadawodd yn ei ewyllys (a wnaethpwyd 1 Mawrth 1575 ac a brofwyd 2 Mai 1575) y swm o £20 i'w dalu i rywun a draddodai bregeth neu ddarlith hyn a hyn o weithiau am flwyddyn - weithiau yn Saesneg ac ar brydiau yn Gymraeg. Ceir cyfeiriad ato mewn dogfennau swyddogol mor gynnar â 1542/3; bu'n faer Caerfyrddin yn 1557. Priododd Jane, ferch David ap David (a oedd yn faer yn 1523), a bu iddynt lawer o blant. Gadawodd arian hefyd i helpu sefydlu ' Free School ' yng Nghaerfyrddin, ac yr oedd y nai yn Llundain ymhlith y llawer a dderbyniodd les o dan yr ewyllys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.