TOMKINS (TEULU), cerddorion

Er mai o Gernyw yr hanoedd y teulu hwn, bu gan rai aelodau ohono gysylltiad â Sir Benfro. Ceir eu hanes yn y D.N.B. ac yn Grove, Dictionary of Music and Musicians (4ydd arg.).

THOMAS TOMKINS 'I' (c. 1545 - c. 1626/7), organydd a chôrfeistr

Dyma'r cyntaf o'r teulu a chysylltiad â Chymru. Hanoedd ô deulu a oedd wedi ymsefydlu ers cenedlaethau yn Lostwithiel, Cernyw. O Gernyw aeth i Dyddewi, lle y daeth yn 'Master of the Choristers and Organ-player' yn yr eglwys gadeiriol. Priododd (1) Margaret Poher (neu Pore), a (2) Ann Hargest, merch (neu chwaer) Richard Hargest, Penarthur, gerllaw Tyddewi. Yn ddiweddarach cymerodd urddau eglwysig a daeth yn ganon yn eglwys gadeiriol Caerloyw ac yn ficer St. Mary de Lode yn yr un ddinas.

THOMAS TOMKINS ' II ' (1572 - 1656), cyfansoddwr ac organydd

Yr enwocaf o feibion THOMAS TOMKINS 'I'. Ef, y mae'n debyg, oedd y cerddor mwyaf o'r teulu hwn o gerddorion; ganwyd yn Nhyddewi, yn fab i wraig gyntaf ei dad. Dewiswyd ef yn organydd eglwys gadeiriol Caerwrangon yn 1596; yn 1621 dewiswyd ef yn un o organyddion y Chapel Royal, Llundain. Rhoddir manylion llawn am ei yrfa a'i bwysigrwydd fel cyfansoddwr cerddoriaeth offerynnol, cerddoriaeth eglwysig, ac, yn arbennig, am ei fadrigalau, yn y D.N.B. ac yn llyfr Grove. Yr oedd yn B.Mus. (Rhydychen). Bu farw yn Martin Hussingtree a'i gladdu yno 9 Mehefin 1656.

JOHN TOMKINS (c. 1586 - 1638), organydd

Roedd hwn yn hanner brawd i Thomas Tomkins 'II', yn fab i Thomas Tomkins 'I' o'i ail briodas. Aeth i Goleg y Brenin, Caergrawnt, fe'i penodwyd yn organydd y coleg yn 1606, a graddiodd ddwy flynedd wedyn yn B.Mus. Daeth yn organydd eglwys gadeiriol St Paul's, Llundain, yn 1616. Priododd Margaret, merch Dr Sylvanus Griffiths, deon Henffordd. Am ragor o fanylion gweler D.N.B a Groves, op. cit.

GILLES TOMKINS 'I' (bu farw 1668), organydd

Mab arall i Thomas Tomkins 'I' o'i ail briodas, a fu hefyd yn organydd Coleg y Brenin, Caergrawnt (1624); yn ddiweddarach bu'n organydd yn eglwys gadeiriol Caersallog. Yn 1630 derbyniodd benodiad ychwanegol fel 'Musician for the Virginals to King Charles I'. Fe'i claddwyd yng Nghaersallog 4 Ebrill 1663. Bu ei fab, GILES TOMKINS 'II' (1633 - 1725) hefyd yn organydd Caersallog, a daliodd yr un swydd wedyn yn eglwys gadeiriol Caerwrangon.

ROBERT TOMKINS, cerddor

Seithfed mab Thomas Tomkins 'I', a daeth yn un o gerddorion llys y brenin Charles I yn 1633.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.