Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



TIBBOTT (TEULU), Llanbrynmair

TIBBOTT , RICHARD ( 1719 - 1798 ), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog gyda'r Annibynwyr ; g. 18 Ionawr 1719 yn Hafod-y-pant , Llanbrynmair . Yn 1738 dechreuodd bregethu 'n achlysurol gyda'r Annibynwyr , eithr yn 1740 daeth o dan ddylanwad Howel Harris . Yn fuan wedyn aeth i ysgol Griffith Jones yn Llanddowror ac ymuno â'r Methodistiaid . Bu'n cadw ysgol ei hun yng nghymdogaeth Llanddowror ac yn cynghori yn seiadau'r Methodistiaid yn rhannau deheuol sir Gaerfyrddin a gogledd sir Benfro . Yng nghymdeithasfa Watford , 5 a 6 Ionawr 1742/3 , penodwyd ef yn ymwelydd cyffredinol y seiadau , a chyn diwedd yr un flwyddyn gosodwyd ef i arolygu'r seiadau a ffurfiasid yn sir Drefaldwyn . Mewn cymdeithasfa yn Nantmel , 18 Ebrill 1744 , pasiwyd ei fod i ymroddi'n gyfan gwbl i'r gwaith o ymweled â'r holl seiadau yn sir Drefaldwyn unwaith bob wythnos. Ceir nifer o'i adroddiadau amdanynt ymhlith cofysgrifau Trefeca yn Ll.G.C. Er mai hollol naturiol oedd iddo barhau i deimlo ymlyniad wrth yr Annibynwyr , creodd hynny beth rhagfarn yn ei erbyn ymhlith rhai o'r Methodistiaid . Ysgrifennodd yntau lythyr maith at y gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Hydref 1745 yn mynegi ei safbwynt ar faterion crefyddol. Hyd y gwyddys, Tibbott , trwy gyfrwng y llythyr hwn, oedd y cyntaf i awgrymu'r priodoldeb o argraffu cyffes ffydd ac o sefydlu athrofa . Yn fuan wedi hyn gosodwyd holl seiadau Gwynedd o dan ei ofal, ac arolygai'r seiadau yn siroedd Trefaldwyn , Dinbych , Meirionnydd , a Chaernarfon . Ar y teithiau hyn cafodd lawer o'i wrthwynebu a'i erlid.

Pan ddaeth yr ymraniad rhwng Howel Harris a Daniel Rowland , glynodd Richard Tibbott wrth blaid Harris ar y cychwyn, eithr yn ddiweddarach, oherwydd y catholigrwydd ysbryd a barai iddo weled nodweddion da yn y naill a'r llall o'r pleidiau, trowyd ef allan ac ymunodd â phlaid Rowland . Parhaodd i lafurio gyda'r Methodistiaid hyd 1762 , pan dderbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog eglwys Annibynnol yr Hen Gapel , Llanbrynmair . Urddwyd ef yn Nhachwedd y flwyddyn honno, ac yno y llafuriodd weddill ei oes, eithr teithiai lawer, gan bregethu 'n fynych gyda'r Methodistiaid ac yn achlysurol gyda'r Bedyddwyr . Bu f. 18 Mawrth 1798 . Brawd iddo oedd



JOHN TIBBOTT (bu f. 1785 ), yntau'n weinidog Annibynnol . Am rai blynyddoedd cyn urddo'i frawd bu'n cynorthwyo Lewis Rees , rhagflaenydd Richard fel gweinidog Llanbrynmair . Yn 1763 symudodd i sir Gaerfyrddin i gymryd gofal eglwysi Ffaldybrenin ac Esgairdawe . Bu f., yn sydyn, 6 Chwefror 1785 , yn Esgairdawe , a'i gladdu ym mynwent Pencarreg . Mab iddo ef oedd


ABRAHAM TIBBOTT ( 1752 - 1808 ) . Ganed yntau yn Llanbrynmair , a chafodd gwrs o addysg yn y Fenni . Tua 1775 aeth yn weinidog i Rosymeirch , yr achos Ymneilltuol hynaf yn sir Fôn . Tua 1783 symudodd i Lanuwchllyn ac yn 1792 i Gymer Glyncorrwg a Llangynwyd , Morgannwg , lle bu'n gweinidogaethu am ddwy flynedd; cadwai ysgol hefyd yn Llangynwyd . Yn 1794 dychwelodd i Fôn ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu yntau f. yn sydyn, 19 Mehefin 1808 , a'i gladdu yng nghapel Rhosymeirch .


Yr oedd i JOHN TIBBOT ( c. 1757 - 1820 ), gwneuthurwr clociau , hefyd gysylltiad â'r teulu hwn. Tybir mai mab ydoedd i Richard Tibbot , Ty-croes , Pennarth , Llanfair-caereinion . Tua 1777 ymsefydlodd yn y Drenewydd fel gwneuthurwr clociau ac oriorau , a bu yno am 30 mlynedd. Yna symudodd i'r Cawg , Llanbrynmair , ac yno y bu'n amaethu , gan barhau i ymddiddori yn ei grefft gysefin, hyd ei farw yn 1820 . Fe'i claddwyd ym mynwent Llanbrynmair ar 24 Mawrth .

Y mae'n nodedig fel dyfeisydd mathau arbennig o glociau ac oriorau . Y mae tystiolaeth ar gael ddarfod iddo yn 1816 gyflwyno rhai o'i ddyfeisiadau i sylw'r ‘ Royal Society of Arts ’ ac iddo gael cam oherwydd i'r pwyllgor a'u harchwiliodd, o fwriad neu mewn anwybodaeth, wrthod cydnabod bod unrhyw nodweddion arbennig yn perthyn iddynt. Y mae lle cryf i gredu, fodd bynnag, mai ei ddyfais ef yw'r pendil rhydd . Y mae amryw o'i glociau ar gael o hyd.

Llyfryddiaeth:

  • Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd , i-iv;
  • Y Tadau Methodistaidd , 1895 , i, 213-8;
  • R. Bennett , Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf, 1738–1852 , 1929 ;
  • I. C. Peate (gol.), Hen Gapel Llanbrynmair, 1739–1939 , 1939 , 43-5;
  • R. T. Jenkins , Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn , 1937 , 100-5;
  • The Evangelical Magazine and Missionary Chonicle , Llundain , 1802 , 161-9;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 596, 597, 599;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , dan yr eglwysi a enwir;
  • M. H. Jones , The Trevecka Letters, or the unpublished MSS. correspondence of Howell Harris and his contemporaries , 1932 ;
  • cofysgrifau Trefeca yn Ll.G.C.;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1122;
  • Montgomeryshire collections : relating to Montgomeryshire and its borders , xlviii, 176-85; li, 38-40.

Awdur:

Gildas Tibbott M.A., (1900-79), Aberystwyth