THOMAS, JOSEPH WILLIAM (1846 - 1914), cemegydd

Enw: Joseph William Thomas
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1914
Rhiant: Daniel Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cemegydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 9 Mawrth 1846 yn Llwyn-y-grant (Pen-y-lan), Caerdydd, yn fab i Daniel Thomas, codwr tai. Bu'n astudio cemeg am rai blynyddoedd yn y Royal College of Science, gan arbenigo mewn dadansoddi'r nwyon a gyfyd mewn glofeydd - ei Coal-mine Gases and Ventilation, 1878, fu'r llyfr safonol ar hynny am gryn amser. Dychwelodd i Gymru, a bu'n ddadansoddwr yng ngwasanaeth Sir Forgannwg a threfi Caerdydd a Chasnewydd. Bu farw'n ddisyfyd yn Llundain, 3 Mawrth 1914. Yr oedd yn naturiaethwr, a gadawodd ei gasgliad helaeth o bryfed i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.