Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, WILLIAM (‘Islwyn ,’ 1832-1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd; g. 3 Ebrill 1832 yn ‘Tŷ'r Agent’ yn agos i Ynys-ddu, pentref yn nyffryn Sirhywi, sir Fynwy. Mesurwyr tir a pheirianwyr oedd ei ddau frawd, David Thomas a John Thomas, a chychwynnodd ‘Islwyn’ ddysgu eu crefft hwy, ond gwelodd ei frawd-yng-nghyfraith, y Parch. D. Jenkyns (‘Jenkyns y Babell’), ddeunydd pregethwr ynddo, a danfonwyd ef i ysgolion yn Nhredegar, Casnewydd, a'r Bont-faen, ac i athrofa'r Dr. Evan Davies [q.v.] yn Abertawe. Syrthiodd mewn cariad yn y dref honno â merch ifanc, Ann Bowen, a phan oeddent ar briodi, bu farw'r ferch, ac effeithiodd hyn yn drwm ar ei fywyd a'i farddoniaeth. Yng nghyfarfod misol Twyncarno, Rhymni, 3 a 4 Ionawr 1854, derbyniwyd cais oddi wrth gapel y Babell am ganiatâd i William Thomas bregethu, ac yng nghyfarfod misol y Gelli Groes, 16 Awst 1854, rhoddwyd iddo, ar ôl y prawf, ganiatâd ‘i ddechreu pregethu yn ôl y drefn arferol.’ Ordeiniwyd ef yn 1859, ond ni bu erioed yn fugail eglwys. Yn 1864 priododd â Martha, merch William Davies, gŵr a briododd weddw, mam Ann Bowen; buont fyw yn ‘Green Meadow’ gerllaw capel y Babell, ac yno y buont nes adeiladu tŷ iddo ef ei hun a'i wraig yn 1871, sef ‘Y Glyn.’ Yn ôl Daniel Davies [q.v.], bu Islwyn yn ‘golygu'r Cylchgrawn, yr Ymgeisydd, y Glorian, y Gwladgarwr, a barddoniaeth y Faner a'r Cardiff Times,’ ond y mae'n anodd gwybod faint o wir sydd yn hyn. Beth bynnag, bu'n golygu ‘Y Golofn Gymreig’ yn The Cardiff Times a bu Glasynys’ (Owen Wynne Jones) [q.v.] ac yntau yn ysgrifennu erthyglau blaen Y Glorian, ond Llew Llwyfo’ (Lewis William Lewis) [q.v.] a benodwyd yn olygydd arno. Bu ‘Islwyn’ f. 20 Tachwedd 1878, a chladdwyd ef ym mynwent capel y Babell.

Dau athro barddol ‘Islwyn’ oedd ‘Gwilym Ilid’ ac Aneurin Fardd’ [q.v.] ac yr oedd yn y cyfnod hwn yn sir Fynwy, yn enwedig yn Abergafenni, gylchoedd llenyddol. Bu ‘Islwyn’ yn gystadleuydd mawr yn yr eisteddfodau, a chystadleuydd aflwyddiannus ar y cyfan. Enillodd yn 1853 wobr yn eisteddfod Cefn-coed-y-cymer ar gân, ‘Abraham yn aberthu Isaac,’ ac ar farwnad i Carnhuanawc yn eisteddfod olaf Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni; enillodd gadair yn eisteddfod y Rhyl, 1870, am awdl, ‘Y Nos'; yng Nghaergybi yn 1872 am awdl ar ‘Moses'; yng Nghaerffili yn 1874 am awdl, ‘Cartref'; ac yn Nhreherbert yn 1877 am awdl, ‘Y Nefoedd.’ Nid enillodd gadair yr eisteddfod genedlaethol, er iddo geisio droeon amdani. Tybiai ar ddiwedd ei fywyd iddo esgeuluso pregethu'r efengyl wrth gystadlu gymaint.

Dyma restr o lyfrau ‘Islwyn’ a chasgliadau o'i weithiau: Barddoniaeth, gan Islwyn, 1854; Ymweliad y Doethion a Bethlehem. Y bryddest fuddugol yn Eisteddfod Ivoraidd Llanelli, 1867 (Aberdâr, 1871); Awdl ar y Nefoedd, 1878?; Caniadau gan Islwyn (Gwrecsam, diddyddiad); Cymru, gan Islwyn (Cyfres Blodau'r Grug, diddyddiad); Pregethau y Parch. William Thomas (Islwyn). Gan y Parch. Edward Matthews, 1896; Islwyn, pigion o'i waith, 1897; Islwyn (Llyfrau Urdd y Delyn, 1897); Gwaith Barddonol Islwyn (Owen M. Edwards), 1897; Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil, 1903); Perlau Awen Islwyn, gan J. M. Edwards, M.A., 1909; Islwyn's English Poems, 1913.

Llyfryddiaeth:

  • Evan Rees (Dyfed) Oriau gydag Islwyn, 1901;
  • W. J. Gruffydd, Islwyn : Darlith Goffa Islwyn, 1942;
  • D. Gwenallt Jones, Bywyd a Gwaith Islwyn (‘Cyfres Pobun,’ rhif xvii);
  • T. H. Parry-Williams, Islwyn, Detholion o'i Farddoniaeth (Llyfrau Deunaw), 1948;
  • N.L.W. MSS. 1064, 2340 3191-7, 3292, 4500, 5876, 5878.

Awdur:

David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth