THOMAS, EDWARD WILLIAM (1814 - 1892), cerddor

Enw: Edward William Thomas
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1892
Rhiant: Robert Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 29 Ionawr 1814 yn Llundain. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landwrog, ger Caernarfon, yn gerddor da, ac yn chwarae'r ffidil. Yn 1820 symudodd y teulu i Glynllifon, plasty'r arglwydd Newborough, gan i Robert Thomas y tad gael ei benodi yn arolygydd Glynllifon. Cafodd ei addysg gerddorol yn blentyn gan ei dad. Yn wyth oed aeth ef a'i chwaer i fyw gyda pherthynas i Rydychen, a chariodd ymlaen ei efrydiaeth gerddorol. Anfonwyd ef i'r Royal Academy of Music o dan ddisgyblaeth Moira a Spagnolette. Ymsefydlodd yn Llundain yn athro ar y ffidil, ac yn aelod o'r Royal Italian Opera. Penodwyd ef yn flaenwr Cerddorfa'r Philharmonic, Lerpwl, a daliodd y swydd am 34 o flynyddoedd. Bu am bum mlynedd yn flaenwr Cerddorfa'r Opera House, Leicester. Gwasnaethodd yn eisteddfodau cenedlaethol Llandudno 1864, y Rhyl 1865, Caer 1866, Pwllheli 1875, a Lerpwl 1885. Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol i'r ffidil, a chyflwynodd ei ' Violin Concerto ' i'r cerddor enwog Joseph Joachim. Ceir ' Cân Bugail Morgannwg ' ganddo yn Greal y Corau, Mai 1861. Yn ei flynyddoedd olaf symudodd i fyw i'r Dinas Dinlle Hotel, ac yno y bu farw 4 Hydref 1892. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Llandwrog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.