THOMAS, WILLIAM (1613 - 1689), esgob

Enw: William Thomas
Dyddiad geni: 1613
Dyddiad marw: 1689
Priod: Blanche Thomas (née Samyne)
Rhiant: Elizabeth Thomas (née Blount)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd ym Mryste, 2 Chwefror 1613, mab John Thomas o Fryste (gynt o Gaerfyrddin) ac Elizabeth ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Gaerfyrddin, ac ymaelodi ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg S. Ioan, 13 Tachwedd 1629; graddiodd yn B.A. o Goleg Iesu, Mai 1632, ac M.A. Chwefror 1634/5. Bu hefyd yn gymrawd ac yn athro yng Ngholeg Iesu. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1637 ac yn offeiriad yn 1638 gan yr esgob Bancroft o Rydychen; daeth yn ficer Penbryn, Sir Aberteifi, ac yn gaplan i iarll Northumberland. Penododd hwnnw ef yn ficer Talacharn a Llansadyrnin yn Sir Gaerfyrddin. Trowyd ef o'i swydd yn 1644, ac aeth i gadw ysgol yn Nhalacharn; yn 1660 adferwyd ef a'i benodi'n gantor Tyddewi. Wedyn daeth yn rheithor Llanbedr Efelffre, Sir Benfro, ac yn gaplan i ddug Caer Efrog; ac yn Nhachwedd, 1665, penodwyd ef yn ddeon Caerwrangon. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cysegrwyd ef yn esgob Tyddewi; parhaodd yn ei ddeoniaeth. Bu'n esgob Tyddewi am chwe blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu mawr ofal ganddo dros fuddiannau'r esgobaeth; pregethai yn Gymraeg, hyrwyddai gyhoeddiadau Cymraeg Thomas Gouge a Stephen Hughes, a dechreuodd atgyweirio plasau'r esgob yn Abergwili ac Aberhonddu. Symudwyd ef i Gaerwrangon yn esgob yn 1683, a bu farw yno 25 Mehefin 1689. Claddwyd ef yn eglwys gadeiriol Caerwrangon. Yr oedd yn briod, a chanddo wyth plentyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.