Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , SIMON (efallai'n fyw yn 1746 ), gweinidog Presbyteraidd, ac awdur ; ychydig dros ben a wyddys amdano. Dywed D. Lleufer Thomas (yn ysgrif y D.N.B. ar Joshua Thomas ) ei fod yn ewythr i hwnnw, ac mai gydag ef yn nhref Henffordd y prentisiwyd Joshua Thomas [q.v.] yn 1739 . Yn ôl Joshua Thomas ( Hanes Bed. , arg. 1af, xxvii) fe'i ganed yn y Cilgwyn , gerllaw Llanbedr-pont-Steffan . Y mae'n eglur iddo gael addysg glasurol yn rhywle. Dywed T. Eirug Davies ( Cofiadur , 1937 , 31) iddo gael ei ordeinio yn y Cilgwyn yn gynorthwywr i Philip Pugh [q.v.] , ond sylwer na chafodd Pugh ei hunan mo'i urddo cyn Hydref 1709 , er ei fod yn gwasnaethu'r eglwys er 1704 . Sut bynnag, y mae'n eglur fod Simon Thomas yn nhref Henffordd erbyn Awst 1711 , yn sidanydd , ac yn weinidog (neu'n un o weinidogion) y gynulleidfa yno, oblegid fe'i ceir y pryd hwnnw'n un o dystion ewyllys ei gyd-weinidog hŷn John Weaver ( Cylch. Cymd. Hanes M.C. , 1943 , 105). Ei lyfr cyntaf ac enwocaf oedd Hanes y Byd a'r Amseroedd , 1721 , math o wyddoniadur, gyda phwyslais gwrth-Babyddol amlwg, a fu'n llyfr poblogaidd iawn, ac a ailargraffwyd ddwywaith ( 1724 , 1728 ) yn ystod ei fywyd, a theirgwaith beth bynnag ( 1780 , 1799 , 1824 ) ar ôl hynny. ‘ S. T. ’ y gelwir yr awdur ar yr wyneb-ddalen, ac fel ‘ S. T. ’ hefyd, yn 1735 , y cyhoeddodd Histori yr Heretic Pelagius . Yn 1741 ymddangosodd Deonglydd yr Ysgrythurau , llyfr di-enw, ond a briodolir yn bur ffyddiog i Simon Thomas ; gwrth- Belagaidd yw hwn hefyd; gelwir ef yn ‘rhan gyntaf,’ ond ni welwyd mo'r ail. Priodola Ashton iddo hefyd dri llyfr Saesneg . Un o'r rhain yw'r History of the Cambri , 1746 , a ddisgrifir gan Syr Thomas Phillipps [q.v.] o Middle Hill yn y Cambrian Journal , iv, 328, fel llyfr ‘ rustically printed on coarse paper ,’ heb enw awdur na gwasg, ond yr oedd nodyn mewn llawysgrifen ar y copi'n ei briodoli i'r ‘ Rev. Simon Thomas ,’ a dywedir yn fynych fod ganddo ef wasg breifat , ac y byddai'n argraffu ei lyfrau gartref. Os ef yn wir a wnaeth y llyfr hwn, yna yr oedd yn fyw yn 1746 ; dywedir yn gyffredin mai tua 1743 y bu f. — ni ddywed Joshua Thomas (loc. cit.), ond ‘nid hir wedyn,’ h.y. ar ôl 1742 , ‘y bu farw’ (gw. hefyd yr ysgrif ar Nicholas Thomas ).

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850 . [1893?] , dan y blynyddoedd a nodwyd;
  • C. Ashton , 159-61;
  • a'r cyfeiriadau eraill a roddwyd uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor