Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , SIENCYN neu JENKIN ( 1690 - 1762 ), crydd, pregethwr Ymneilltuol, a phrydydd ; mab Thomas Morgan , melinydd Tre Wen , Brongwyn , sir Aberteifi . Trigai yn y Cwm Du . Ar dystiolaeth marwnad iddo gan ei fab, John Jenkin [q.v] , g. ef yn 1690 . Dechreuodd bregethu gyda'r Ymneilltuwyr yn 1716 , a bu'n cynorthwyo achosion crefyddol Tre Wen a Llechryd . Dengys ei englynion ‘ In Laudem Authoris ’ yn Drych y Prif Oesoedd , 1716 , a'i gywydd a argraffwyd yn Meddylieu Neillduol ar Grefydd , 1717 , ei fod, er yn gymharol ieuanc, ymhell ar y blaen ar ei gyfeillion llenyddol yn neau Aberteifi yn ei feistrolaeth ar gerdd dafod a'i adnabyddiaeth o arddull draddodiadol y cywyddau. Mae ar ei orau yn ei farwnad i Ifan Gruffydd , y Tŵr Gwyn , a luniwyd yn 1735 . Crefyddol a moesegol iawn yw ei gerddi rhydd, a dyry le amlwg ynddynt i'r gynghanedd a'r odl fewnol. Ef oedd y cyntaf o feirdd Ceredigion i ddefnyddio'r mesur tri thrawiad.

Llyfryddiaeth:

  • Yr Adolygydd , iii, 55;
  • Y Geninen , x, 78;
  • Cymru , vii, 173;
  • Benjamin Williams (Gwynionydd) , Enwogion Ceredigion , 1869 , 227;
  • Blodau Dyfed , 1824 , 1824 ;
  • Diliau'r Awen, sef, Crynodeb o Waith Awenyddol…Evan Thomas Rhys…ac eraill , 1842 , 1842 ;
  • Ceinion Alun , 1851 , 72;
  • Almanac Siôn Rhydderch , 1733 , 1733 ;
  • N.L.W. Llanover MS. 59,266;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 19;
  • Cardiff Manuscript 56.

Awdur:

Dr Geraint Bowen, M.A., Rhiwabon