Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , SAMUEL ( 1692 - 1766 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac athro academi Caerfyrddin ; g. yn 1692 yn y Derllysg gerllaw Caerfyrddin , yn fab i amaethwr cefnog. Yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Thomas Perrot(t) [q.v.] ; gadawodd yr academi yn 1724 , a chredir iddo wedyn fod yn weinidog yn West Looe , Cernyw . Yn 1735 , galwyd ef i fugeilio eglwys Heol Awst , Caerfyrddin , a chadwai hefyd ysgol ramadeg . Ond yn 1743 , pan symudwyd yr academi eilwaith i Gaerfyrddin , gwahoddwyd Samuel Thomas i gynorthwyo Evan Davies [q.v.] ynddi — noder na ddiddymwyd yr ysgol, ac iddi barhau, mewn cyswllt â'r academi, hyd 1845 ; felly pan ddarllenwn fod rhyw weinidog wedi bod dan addysg ‘yng Nghaerfyrddin ,’ nid yw bob amser yn dilyn iddo fod yn yr academi. Ymddengys mai gŵr sychlyd, yn y pulpud ac yn y ddarlithfa, oedd Samuel Thomas — cwyna Thomas Morgan (‘ Henllan ’) [q.v.] ar ei naws oeraidd. Yr oedd yn Armin ar y lleiaf, onid yn wir yn Ariad . Ni wingodd ei eglwys yn erbyn hynny; eto dengys ei chofnodion mai bechan a marwaidd oedd hi ar derfyn ei 30 mlynedd fel gweinidog . Eithr fel athro , poenai ei olygiadau lawer ar y Bwrdd Cynulleidfaol ; ac ar ôl sawl ymdrech ofer i gael gan Evan Davies gael gwared ohono, penderfynodd y Calfiniaid ( 1757 ) agor academi iddynt eu hunain yn y Fenni . Ymadawodd Evan Davies â Chymru yn 1759 , a rhoes y Bwrdd Presbyteraidd lywodraeth yr academi i Samuel Thomas , a Jenkin Jenkins [q.v.] yn gynorthwywr iddo; dan y ddeuddyn hyn sefydlogwyd nodwedd ‘anuniongred’ yr academi. Yn ôl pob tystiolaeth, yr oedd Samuel Thomas yn athro trylwyr a chydwybodol, ac yr oedd safon dysg yr academi'n gydnabyddedig uchel yn ei ddwylo. Ymddeolodd yn 1764 , a bu f. 7 Medi 1766 , ‘yn 74 oed’ meddai ei faen coffa yn Heol Awst .

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 429-30, 433-4;
  • J. Dyfnallt Owen , Hanes Eglwys Heol Awst, Caerfyrddin , 1926 , 20-3;
  • G. D. Owen , Ysgolion a Cholegau yr Annibynwyr , 1939 , 30-44.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor