Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , ROBERT ( 1796 - 1866 ), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a ‘chymeriad’ ; g. 28 Awst 1796 yn Trawsafon , Betws-y-coed , yn bumed o naw plentyn Thomas Thomas , saer maen , a'i wraig Elizabeth ( Williams ) . Bu'n hogyn ar fferm am dymor, ond yna cymerth at grefft ei dad. Bu mewn mân ysgolion, a darllenai'n awchus; prydyddai er yn fore, ac yr oedd yn gyfeillgar iawn â Ieuan Glan Geirionydd ’ ( Evan Evans , 1795 - 1856 ) [q.v.] . Dechreuodd bregethu yn 1820 . Yn 1823 aeth am rai misoedd i ysgol John Hughes yn Wrecsam . Bu wedyn yn cadw ysgol ym Modfari a Threlogan , gan weithio hefyd fel saer maen . Priododd yn 1826 â Sara Roberts o Gae'r-lion yn Waun y Bala , a buont yn byw yn y Bala am ddwy flynedd ac yntau'n cadw ysgol am beth o'r amser. O 1828 hyd 1834 bu'n ffermio Tynant yn Waun y Bala , ac o 1834 hyd 1840 cymerth dyddyn ei dad-yng-nghyfraith; ond methiant llwyr fu'r ffermio , a symudodd yntau i Ffestiniog i weithio wrth ei grefft — o 1844 hyd 1853 yr oedd yn byw yn nhŷ capel Peniel — ac yno, 1849 , y cyhoeddodd lyfr o brydyddiaeth, Lloffion o Foes Boaz . Yn 1853 , aeth Sara Thomas i gadw siop yn ei henfro, y Llidiardau , ac yntau'n gweithio fel saer maen ac yn cadw ysgol yng nghapel Llidiardau ar ysbeidiau — heb sôn am bregethu ar hyd ac ar led Cymru , oblegid yr oedd galw mawr amdano, pe na bai ond yn herwydd ei odrwydd; ni ordeiniwyd mohono. Bu f. 16 Rhagfyr 1866 . Di-lun fu erioed yn ei amgylchiadau ar hyd y daith, a dyn od, trwsgl (ond ffraeth), byrbwyll, mor bruddglwyfus nes bron croesi'r ffin i orffwylledd sawl tro. Yn wir, nid yw'r crynodeb uchod o ffeithiau allanol ei fywyd o fawr budd i neb na fyn ddarllen y gyfrol hynod ddiddorol Hanes Bywyd Robert Tomos Llidiardau gan Owen Jones , 1869 , sy'n cynnwys llawer o'i ddywediadau.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor