THOMAS, RICHARD (1718 - 1807), cynghorwr Methodistaidd cyntaf Môn

Enw: Richard Thomas
Dyddiad geni: 1718
Dyddiad marw: 1807
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd cyntaf Môn
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Griffith

Bedyddiwyd yn Llanfechell 31 Gorffennaf 1718. Oherwydd rhyw 'afreolaeth' ffoes i'r Deheudir; cafodd droëdigaeth yno tua 1739. Dechreuodd gynghori a gweithio'n ddiwyd. Edrydd mewn llythyr at Howel Harris ('Llanfeigan, Gorph. 27, 1746') ei fwriad i ddychwelyd i Fôn a phregethu i'w genedl ei hun. Cyfrifir ef y pregethwr cyntaf o sir Fôn. Dywedir iddo lwyr glirio ei ddyledion. Prin ydyw'r hanes amdano wedi dychwelyd; cofnodir iddo bregethu yng Nghaergeiliog 25 gwaith rhwng 1790 a 1799, ac enwir ef fel arolygydd y seiadau yn Llanrhyddlad a Llannerch-y-medd. Claddwyd yn Llanfflewyn, o Dŷ'n Llwyn, Llanfechell, 29 Ionawr 1807.

Cymysgwyd ef, yn anghywir, â RICHARD THOMAS, cynghorwr o'r De (a fu farw 1751).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.