Cafodd ei addysg yn y
College
,
New Brighton
, lle yr arhosodd nes bod yn 17 oed. Cafodd ei brentisio gyda'r
Dr.
Owen
Roberts
cyn mynd i
Brifysgol Edinburgh
yn
1855
; ar ôl bod yno ddwy flynedd symudodd i
University College, Llundain
, i dreulio'r drydedd sesiwn. Daeth yn
M.R.C.S. (England)
yn
1857
ac aeth i
Baris
i astudio llawfeddygiaeth yn rhai o ysbytai
Ffrainc
. Wedi dychwelyd bu gyda'i dad am flwyddyn ac wedyn dechreuodd weithio ar ei gyfrifoldeb ei hun yn
24 Hardy Street
,
Lerpwl
. Yn
1866
prynodd
11 Nelson Street
,
Lerpwl
. Helaethodd y tŷ er mwyn cael dwy ystafell aros, pedair ystafell i weled y rhai a geisiai gyngor a thriniaeth, ystafell arall i wasnaethu fel ‘surgery,’ a gweithdy; gwnaethpwyd y tŷ yn
Hardy Street
yn ysbyty preifat
gydag wyth o welyau yng ngofal nyrs drwyddedig. Cyflogai
of
a hefyd
weithiwr lledr
, ac yr oedd y ddau hyn yn llawn gwaith yn gwneuthur splintiau ac offer eraill a gynlluniai
H. O.
Thomas
ei hunan. Yr oedd yn glinic nad oedd iddo mo'i gyffelyb yn unman arall; yn ddiweddarach daeth y lle yn fyd-enwog. Yr oedd dau beth yn cyfrif paham y daeth
Thomas
yn
llawfeddyg
o deip eithriadol. Y cyntaf oedd y cefndir teuluol; yr oedd wedi etifeddu syniadau llawfeddygol a ystyrid yn ‘anuniongred’ — syniadau yr oedd ef yn gweithredu fel cyfryngwr ac esboniwr iddynt i'w gyd-lawfeddygon. Yn yr ail le yr oedd y damweiniau mynych a ddigwyddai yn
Lerpwl
a'r cylch, ac afiechydon pobl dlodion y gymdogaeth, yn rhoddi iddo gyfle i ddefnyddio a datblygu mewn modd helaeth ei ddulliau ef ei hun.
Cynlluniodd sblintiau
a phethau cyffelyb, lawer ohonynt yn eithaf syml yr olwg arnynt, er mwyn i aelodau a anafwyd neu gymalau yr oedd clefyd arnynt gael gorffwys a'u cadw am gyfnodau yn gwbl lonydd. Y mae'n debyg na lwyddodd yr un
llawfeddyg
arall fel y llwyddodd ef wrth drin, yn nhai gweithwyr, esgyrn toredig, ac ni chafodd yr un llawfeddyg arall ym
Mhrydain
gyfle i drin cymaint o esgyrn toredig ag a driniai ef, a phrin y rhoes neb gymaint o sylw manwl i'r gwaith ag a roddai ef. Arwyddeiriau
Thomas
oedd ‘gorffwys’ a ‘gosodiad cywir,’ a llwyddodd i gael y ddeupeth hyn trwy gyfrwng ei sblintiau cyn i belydrau X gael eu darganfod.
Yn
1875
cyhoeddodd
Thomas
ei lyfr cyntaf,
Diseases of the Hip, Knee, and Ankle Joints
: yn hwn y disgrifiwyd am y tro cyntaf ei sblintiau ar gyfer y cluniau a'r penelin a ddaeth yn fydenwog. Dangosodd y llyfr hwn ei fod yn feddyliwr gwreiddiol ym maes llawfeddygiaeth. O hynny ymlaen hyd ddiwedd ei oes cafwyd ganddo, o bryd i bryd, gyfres o gyfraniadau i wyddor meddygiaeth a llawfeddygiaeth. Serch hynny, ychydig o ddylanwad a gafodd ei ddysgeidiaeth, yn bennaf am nad oedd ei weithiau wedi eu cynhyrchu mewn dull da a'i fod yn defnyddio cyhoeddwr anhysbys. Mwy na hynny, yr oedd yn gweithio ar ei ben ei hun ac ni ellid ei ddarbwyllo i siarad mewn cyfarfodydd gwyddonol a phroffesiynol am ei ddull o drin. Ni chydnabuwyd ei waith yn ystod ei fywyd; yn ddiweddarach, fodd bynnag, llwyddodd ei nai a'i ddisgybl,
Syr
Robert
Jones
[q.v.]
, i ddwyn ei ddysgeidiaeth a'r defnydd a wnâi o'r sblintiau i sylw llawfeddygon. Yn ystod rhyfel
1914-9
ac wedi hynny bu'r ‘
Thomas caliper
’ yn foddion i achub miloedd o aelodau; erbyn heddiw fe'i defnyddir yn gyffredinol ym mhob ysbyty bron trwy'r byd. Bu
H. O.
Thomas
farw, wedi
gorweithio
,
6 Ionawr 1891
, yn 57 oed. Yr oedd yr arddangosiad o ofid ar adeg ei farw a'i gladdu yn eithriadol. Ni lwyddodd un arloeswr arall gymaint ag ef i sefydlu egwyddorion sylfaenol llawfeddygiaeth ‘orthopedig.’