THOMAS, OWEN (1812-1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur

Enw: Owen Thomas
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1891
Priod: Ellen Thomas (née Roberts)
Rhiant: Mary Thomas
Rhiant: Owen Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Evans

Ganwyd yng Nghaergybi, 16 Rhagfyr 1812, mab Owen a Mary Thomas, a brawd John Thomas (1821 - 1892) a Josiah Thomas. Saer maen oedd y tad, ac ar ôl symud y teulu i fyw i Fangor 1827, dilynodd yntau yr un alwedigaeth. Dechreuodd bregethu yn 1834, a daeth ar unwaith yn amlwg fel pregethwr. Aeth i Goleg y Bala, 1838, ac oddi yno i Brifysgol Edinburgh. Yn 1844 derbyniodd alwad yn weinidog eglwys Penmount, Pwllheli; ordeiniwyd ym Medi 1844. Symudodd i'r Drefnewydd i ofalaeth Saesneg, yn 1846, ac yn niwedd 1851 derbyniodd alwad i fod yn weinidog eglwys Jewin Crescent, Llundain. Ar 24 Ionawr 1860 priododd Ellen (a fu farw 1867), merch ieuengaf y Parch. William Roberts, Amlwch (1784 - 1864). Yn 1865 symudodd i Lerpwl, yn gyntaf i Nether field Road, ac yn 1871 i eglwys Princes Road. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1863 a 1882, ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1868 a 1888. Yr oedd yn rheng flaenaf pregethwyr mawr Cymru, yn awdurdod ar hanes a datblygiad pregethu Cymru, ac yn bencampwr mewn areithyddiaeth. Bu'n efrydydd egnïol ar hyd ei oes, a gwnaeth gyfraniad ardderchog i lenyddiaeth grefyddol Cymru. Yr oedd yn ddiwinydd praff ac yn esboniwr galluog. Y mae ei lyfrgell (yng Ngholeg y Bala) yn brawf pendant o ehangder cylch ei astudiaeth, a'i weithiau ef ei hun yn fynegiant o allu, llafur, a dawn arbennig. Bu farw 2 Awst 1891, a chladdwyd ym mynwent Anfield, Lerpwl. Cyhoeddodd Cofiant y Parch. John Jones, Talysarn, dwy gyfrol (Wrecsam, 1874) (yn cynnwys cipdrem ar hanes diwinyddiaeth a phregethu Cymru); Cofiant y Parch. Henry Rees, dwy gyfrol (Wrecsam, 1890); Cyfieithiad o draethawd y Parch. Thomas Watson, ar Sancteiddhad, a phigion o waith amryw awduron (Llanrwst, 1839); Esboniad ar y Testament Newydd (1862-85), yn cynnwys cyfieithiad esboniad Dr. Kitto gyda nodiadau ychwanegol - cyhoeddwyd ar wahân yr esboniadau ar yr Hebreaid, 1889, a'r Galatiaid, 1892; erthyglau cyson i'r Traethodydd o'i gychwyniad - bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn am gyfnod gyda Roger Edwards; erthyglau i'r Gwyddoniadur, ac amryw gyhoeddiadau eraill. Y mae Cofiant iddo gan J. J. Roberts ('Iolo Caernarfon').

Heblaw Owen a John Thomas, yr oedd trydydd brawd:

JOSIAH THOMAS (1830-1905), ysgrifennydd Cymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd

Ganwyd ym Mangor 7 Awst 1830. Aeth i Goleg y Bala ac i Edinburgh, lle y graddiodd yn 1857. Merch i John Hughes (1796 - 1860) oedd ei wraig. Wedi bod yn fugail Jerusalem (Bethesda, Arfon) bu'n cadw ysgol ym Mangor (1862-6) ond yn 1866 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd, a daliodd y swydd hyd 1900. Yn 1896, bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd. Bu farw 21 Mai 1905.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.