THOMAS, NATHANIEL (ganwyd 1730), golygydd

Enw: Nathaniel Thomas
Dyddiad geni: 1730
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: John James Jones

mab John Thomas, o Sir Forgannwg. Ymgorfforodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 11 Ebrill 1747, yn 16 mlwydd oed, o dan yr enw Nathan Thomas. Ni ddywed Foster (Alumni Oxonienses), iddo gymryd unrhyw radd ond geilw bywgraffwyr Cymraeg ef yn B.A. Daeth yn olygydd a pherchen y St. James's Chronicle, Llundain. Golygodd dalfyriad o eiriadur Lladin Ainsworth, 1758, a chywiro argraffiad arall o'r un gwaith yn 1761. Cyhoeddodd hefyd argraffiad o Eutropius gyda chyfieithiad a nodiadau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.