THOMAS, MICAH (1778 - 1853), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr

Enw: Micah Thomas
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1853
Priod: Rachel Thomas (née Harris)
Priod: Sophia Thomas (née Wall)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Edward William Price Evans

Ganwyd 19 Chwefror 1778 yn Whitson yn sir Fynwy, yn fab i ffermwr a oedd yn aelod o eglwys Annibynnol New Inn. Symudodd ei rieni i Langybi (Llangibby), a bu yntau dan addysg yn Nhre-rhedyn ac wedyn yn y Trosnant, Pontypŵl. Ymunodd â Bedyddwyr Penygarn; dechreuodd bregethu yn 1796; aeth i academi'r Bedyddwyr ym Mryste yn Chwefror 1801; ac urddwyd ef yn Ryeford (sir Henffordd), 19 Medi 1802. Yn Ionawr 1807 aeth i'r Fenni, i wneuthur gwaith mawr ei fywyd fel llywydd academi'r Bedyddwyr yno (a agorwyd yn 1807 ac a symudwyd i Bontypŵl pan ymddiswyddodd ef yn 1836) a gweinidog eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn Frogmore Street.

Priododd ddwywaith; ei wraig gyntaf oedd Sophia Wall, o Ross; ei ail wraig oedd Rachel, ferch John Harris o'r Gyfeilon ac ŵyres Morgan Harry, gweinidog Blaenau Gwent.

Dyn defosiynol, ysgolheigaidd, cryf ei ewyllys, oedd Micah Thomas. Cwynid arno fel gweinydd ac fel disgyblwr, ac amheuid a oedd yn Galfin uniongred; ond ni fennodd hynny ddim arno. Yn y diwedd, dug farn i fuddugoliaeth, a chydnabyddid pwysigrwydd ei waith â diolch. O'r cant a thri a fu dan ei addysg y daeth penaethiaid cyntaf tri choleg y Bedyddwyr, ym Mhontypŵl, Hwlffordd, a Llangollen.

Bu farw 28 Tachwedd 1853.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.