Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , JOHN (‘ Pencerdd Gwalia ,’ 1826 - 1913 ) ; g. 1 Mawrth 1826 ym Mhenybont-ar-Ogwr , Morgannwg , mab John a Catherine Thomas . Cymerai y tad ddiddordeb mewn cerddoriaeth , a dysgodd y mab i ganu'r piccolo a'r delyn . Gwnaeth gynnydd cyflym fel telynor . Yn 12 oed enillodd y delyn deir-res yn eisteddfod Abergafenni , 1838 . Yn 1840 , trwy garedigrwydd yr iarlles Lovelace , unig ferch yr arglwydd Byron , anfonwyd ef am gwrs o addysg i'r Royal Academy of Music . Ei athro ar y delyn ydoedd J. B. Chatterton , ac, mewn cynghanedd, Cipriani Potter . Bu yn yr academi am chwe blynedd, ac ar ei ymadawiad gwnaed ef yn gymrawd , ac wedi hynny yn aelod anrhydeddus . Yn 1851 dechreuodd ei deithiau cerddorol ar y Cyfandir , a chynhaliodd gyngherddau yn llysoedd Ffrainc , yr Almaen , Rwsia , Awstria , a'r Eidal . Yn 1861 , yn eisteddfod Aberdâr , urddwyd ef yn ‘ Bencerdd Gwalia .’ Yn 1862 rhoddodd ei gyngerdd cyntaf o gerddoriaeth Gymraeg yn Llundain , a pharhawyd i'w cynnal am flynyddoedd. Yn 1871 penodwyd ef yn delynor i'r frenhines Victoria , ac yn athro ar y delyn yn y Royal Academy of Music . Yr un flwyddyn hefyd sefydlodd Undeb Corawl Cymreig Llundain a rhoddodd y côr ‘ Ysgoloriaeth Gymraeg John Thomas ’ yn yr academi. Yn 1882 penodwyd ef yn arholydd yr academy , ac yn athro ar y delyn yn y Royal College of Music a'r Guildhall School of Music . Gwnaed ef yn aelod o'r cymdeithasau canlynol: Societa di Santa Cecilia ( Rhufain ), Societa Filharmonica ( Fflorens ), The Philharmonic Society ( Llundain ), The Royal Society of Musicians ( Llundain ). Cyfansoddodd ‘harp concerto,’ symffonïau, ‘overtures,’ pedwarawd, operâu, caneuon, ac amrywiadau ar alawon Cymreig i'r delyn, y cantawdau ‘ Llewelyn ’ ar gyfer eisteddfod Aberdâr , 1863 , a'r ‘ Bride of Neath Valley ’ i eisteddfod Caer , 1866 . Bu ei ddarlith ar ‘ Cerddoriaeth Genedlaethol Cymru ’ yn boblogaidd, ac ysgrifennodd ‘ The Musical Notation of the Ancient Britons ’ i'r Myvyrian Archaiology . Casglodd bedair cyfrol o alawon Cymreig , a golygodd Songs of Wales ( J. B. Cramer ), 1874 . Bu f. 19 Mawrth 1913 , a chladdwyd ef ym mynwent West Hampstead , Llundain . Y mae casgliad helaeth o bapurau ‘ Pencerdd Gwalia ’ yn Ll.G.C.

Llyfryddiaeth:

  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;
  • Enwogion Cymru. A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , 1852 ;
  • F. Griffith , Notable Welsh Musicians , 4ydd arg., 1896 ;
  • Y Geninen , xxxiii, 30;
  • Y Cerddor , Gorffennaf 1904 , Mai 1913 , Hydref a Rhagfyr 1916 , Ionawr a Chwefror 1917 ;
  • Groves , Groves’ Dictionary of Music and Musicians , 4ydd arg., 1940 ;
  • The Oxford Companion to Music , 1950 .


Brawd iddo oedd THOMAS AP ( 1829 - 1913 ), cerddor ; dysgodd ganu'r delyn yn ieuanc, a daeth fel ei frawd yn fyd-enwog fel telynor . Ymwelodd â phrif ganolfannau Ewrop , ac yn 1872 cymerodd ran yn un o gyngherddau enwog y Gewandhaus yn Leipzig . Cyfansoddodd gantawd, ‘ The Pilgrim's Progress ,’ ac amryw o ddarnau i'r delyn. Yn 1859 cyhoeddodd The History of the Harp . Yn 70 oed ymfudodd i U.D.A. , ac wedi hynny i Ottawa , Canada , lle y bu f. yn 1913 .

Llyfryddiaeth:

  • Brown a Stratton , British Musical Biography a dictionary of musical artists, authors and composers, born in Brit a , Birmingham, 1897 ;
  • The Oxford Companion to Music , 1950 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn