Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , JOHN ( 1821 - 1892 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr, gwleidyddwr, a hanesydd; g. 3 Chwefror 1821 yng Nghaergybi ; brawd hŷn iddo oedd y Dr. Owen Thomas [q.v.] . Hanoedd ei dad o Landdeiniolen , Arfon , a'i fam o Fôn . Oherwydd prinder gwaith i'w dad fel lliniwr symudodd y teulu i Fangor yn 1827 . Ar ôl ysbeidiau dan addysg gwahanol bersonau aeth i ysgol un Hugh Williams . Yn 1831 collodd ei dad a gorfu iddo fyned i weithio, ac aeth i siop groser . Wedi naw mis yno aeth yn brentis o grydd at un Dafydd Llwyd . Aeth wedyn oddi cartref i chwilio am waith a theithiodd rannau o Feirion , eithr seithug fu'r siwrnai. Yna aeth i Lerpwl a chafodd waith am rai misoedd, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn eglwys Bedford Street ( Methodistiaid Calfinaidd ). Pan ddychwelodd i Fangor yr oedd y wlad yn ferw gan y mudiad dirwestol a chymerth yntau ran ynddo; ynglŷn â'r mudiad hwn y traddododd ei araith gyhoeddus gyntaf — yng Nghaerhun . Yn 1838 bu am rai misoedd yn cadw ysgol ym Mhrestatyn , eithr ei bennaf diddordeb oedd teithio'r wlad i annerch ar ddirwest . Ar gyfrif ei ddoniau ac yn arbennig ei hylithredd ymadrodd anogai llawer ef i ddechrau pregethu . Yn y cyfamser, fodd bynnag, aeth drwy argyfwng a droes gyfeiriad ei fywyd gan beri iddo ymadael â'r Methodistiaid ac ymuno â'r Annibynwyr . Yr oedd yn gydnabyddus iawn â'r Dr. Arthur Jones [q.v.] , gŵr ag ynddo swyn rhyfedd i wŷr ifainc o fath John Thomas . Fis Medi 1838 cymerth y cam pwysig o groesi at yr Annibynwyr . Bu am gyfnod yn athro yn ysgol y Dr. Daniel Williams , a gedwid gan y Dr. Arthur Jones . Dechreuodd bregethu yn 1839 ac aeth i gadw ysgol i Tabor , Penmorfa , Eifionydd , gan bregethu bob cyfle a gâi. Daeth i gryn sylw fel pregethwr ac yn haf 1840 aeth i Marton i ysgol a gadwai'r gweinidog yno er hyfforddi pregethwyr. Y flwyddyn ddilynol symudodd i ysgol Ffrwd-y-fâl ; nid arhosodd yno ond ychydig fisoedd. Cafodd alwad i eglwys y Bwlchnewydd , sir Gaerfyrddin , ac urddwyd ef yno 15 Mehefin 1842 . Yn Chwefror 1850 symudodd i eglwys Glyn Nedd ac yn 1854 i'r Tabernacl , Great Crosshall Street , Lerpwl , lle'r arhosodd weddill ei oes. Bu f. yn Hen Golwyn , 14 Gorffennaf 1892 , a chladdwyd ef ym mynwent Anfield , Lerpwl .

Daethai yn ifanc i reng flaenaf pregethwyr Cymru ac yn un o brif arweinwyr ei enwad , a chadwodd ei safle am hanner canrif. Yr oedd yn ŵr o feddwl praff ac o ynni diderfyn. Bu â rhan amlwg yn y mudiad dau-canmlwyddol i goffáu merthyron 1662 , a arweiniodd i godi Coleg Coffa Aberhonddu . Rhoddasai ei fryd at gael un coleg i'r enwad a chythruddodd hynny bleidwyr y colegau eraill, yn enwedig Coleg y Bala , a bu hyn yn achlysur i brysuro ‘ Brwydr y Cyfansoddiadau ’ ( 1877-85 ) a rannodd yr enwad yn ddwyblaid, y naill dan ei arweiniad ef a'r llall dan arweiniad M. D. Jones [q.v.] .

Ni chyfyngodd ei ddiddordeb a'i lafur i faterion enwadol; ceid ef yn arweinydd gyda mudiadau cenedlaethol a pholiticaidd . Yr oedd yn ddadleuwr cyhoeddus dihafal ar bynciau'r dydd. At hyn oll yr oedd yn llenor a newyddiadurwr medrus. Cyffyrddir â'i waith fel hanesydd ei enwad yn yr ysgrif ar Thomas Rees ( 1815 - 1885 ) . Ymwelodd ddwywaith ag U.D.A. , 1865 a 1876 , gan bregethu a darlithio yma a thraw er cyfnerthu'r bywyd Cymreig yno. Etholwyd ef i gadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1878 ac i gadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1885 .

Golygodd fisolyn , Y Gwerinwr , 1855-6 ; Yr Annibynwr , 1857-61 ; Y Tyst ( cydolygodd â Gwilym Hiraethog ) hyd 1872 ac yna ei hunan hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd hefyd Traethodau a Phregethau , 1864 ; Cofiant y Tri Brawd ( J. , D. , a N. Stephens ); Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (cyd-awdur â T. Rees ); Pregethau , 1882 ; Cofiant J. Davies, Caerdydd , 1883 ; Y Diwygiad Dirwestol , 1885 ; Cofiant Thomas Rees , 1888 ; Hanes yr Eglwysi , v, 1891 ; a nofel, Arthur Llwyd y Felin .

Llyfryddiaeth:

  • Thomas a Rees , Cofiant y Parchedig John Thomas, D.D., Liverpool a , Llundain, 1898 ;
  • Gwaith John Thomas (Cyfres y Fil) , Llanuwchllyn, 1905 (‘Cyfres y Fil’);
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • J. Vyrnwy Morgan , Welsh Religious Leaders in the Victorian Era , Llundain, 1905 ;
  • Cymru , v;
  • Y Geninen , 1892 , 1893 , 1894 , 1895 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 .

Awdur:

Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor