THOMAS, JOHN ('Siôn Wyn o Eifion '; 1786 - 1859), bardd

Enw: John Thomas
Ffugenw: Siôn Wyn O Eifion
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1859
Rhiant: Thomas Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd yn Chwilog, plwyf Llanarmon, yn Eifionydd. Ei dad oedd Thomas Roberts, brawd 'Siôn Lleyn' (John Roberts, 1749 - 1817), bardd. Pan oedd 'Siôn Wyn' yn 9 oed cyfarfu â damwain trwy gael ei wasgu rhwng cert a gwal gerrig yn ymyl ei gartref. Wedi iddo wella aeth i ysgol Isaac Morris, Pentyrch Isaf, athro 'Eben Fardd' a 'Dewi Wyn.' Ymhen tair blynedd wedi'r ddamwain cafodd glefyd trwm a'i gadawodd yn wan a methiannus am y gweddill o'i oes. Dywedir iddo dreulio 25 mlynedd o'i oes yn ei wely gan fyw'n gyfan gwbl ar faidd a phosel. Cymerai ddiddordeb mewn llyfrau a cherddoriaeth a dysgodd ddarllen a mwynhau llyfrau Saesneg. Derbyniai'r Critical Review a chyfnodolion eraill yn fenthyg o'r Gwynfryn. Hoffai waith Milton a Cowper a chyfieithodd gân y caethwas o waith Cowper yn Gymraeg. Deuai gwŷr enwog fel Richard Fenton yr hanesydd a Shelley y bardd i ymweled ag ef. Yr oedd yn cael benthyg llyfrau Cymraeg gan 'Dafydd Ddu Eryri' ac eraill (Adgof uwch Anghof , 42), a chawn iddo anfon awdl ar 'Gerddoriaeth' i'w beirniadu gan y gŵr hwnnw yn eisteddfod Caernarfon, 1821, ond yr oedd yn rhy hwyr i'r gystadleuaeth. Yn 1808 cymerodd ran mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Parch. Samuel Rice, prifathro ysgol Bangor. Am awdl ar y testun 'Yr Adgyfodiad' y gofynnid, ond ysgrifennodd 'Siôn Wyn' gân ar fesur rhydd a chafodd ei geryddu gan y beirniad 'Dafydd Ddu' (Golud yr Oes, ii, 160). Un tyner ac addfwyn oedd 'Siôn Wyn,' fel y gellid disgwyl i un a dreuliodd ei oes mewn neilltuaeth fod, ac oblegid hynny y mae yn ei emynau rai sydd yn addas iawn ar gyfer plant, fel 'Mawl Plentyn' (Gwaith Barddonol , 179). Bu farw 8 Gorffennaf 1859 a chladdwyd ef ym mynwent capel Penlan, Pwllheli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.