Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , JOHN ( 1736 - 1769 ), clerigwr a hynafiaethydd; g. 22 Hydref 1736 yn Tyddyn Ysguboriau , Ynyscynhaearn , Eifionydd , yn fab i Thomas Rowland ; brawd iddo oedd Richard Thomas ( 1750 - 1780 ) [q.v.] , a nai fab chwaer oedd Ellis Owen [q.v.] o Gefnymeusydd . Addysgwyd ef yn Llanystumdwy , Llanegryn , Botwnnog , a'r Friars ym Mangor . Ymaelododd yn Rhydychen 20 Mawrth 1755 o Goleg Iesu , lle'r oedd John Lloyd ‘o Gaerwys ’ [q.v.] yn gyfaill iddo; urddwyd ef yn Rhydychen yn 1760 . Yr oedd yn ‘ under-keeper of the Museum ' yno, ond ni allai fyw ar ei gyflog — nid am fod hwnnw'n fychan (meddai William Morris o Fôn ), ond am ei fod yn yfwr trwm ; felly aeth yn gurad i Gaergybi ddiwedd 1760 . Ddiwedd 1761 cafodd le is-athro yn y Friars , a churadiaeth Llandygai a oedd yn cydfynd â'r swydd honno. Yn 1766 , penodwyd ei beriglor yng Nghaergybi , Richard Langford , yn brifathro ysgol ramadeg Biwmares , ond aeth John Thomas yno'n ddirprwy iddo — nid manwl gywir, felly, yw'r dyb arferol i John Thomas fod yn brifathro 'r ysgol. Gyda'i swydd, daliai guradiaethau Llansadwrn a Llandegfan . Bu farw'n ddisyfyd ar ddydd Llun y Pasg (27 Mawrth) 1769 , yn Castellior ; claddwyd yn Llandegfan , ‘yn 33 oed’ — yn gywirach, yn ei 33 flwydd. Yn ôl tystiolaeth unfryd y Morysiaid , Hugh Hughes y Bardd Coch (a ganodd farwnad iddo), a Ieuan Fardd ,’ yr oedd yn ysgolhaig Cymraeg neilltuol dda, ac yn feistr ar achau ; copïai hen lawysgrifau — aeth y rheini i'w frawd, Richard , a chwalwyd hwy pan fu hwnnw farw; dywed Ellis Owen fod Hugh Maurice [q.v.] wedi defnyddio llawer ohonynt at y Myvyrian Archaiology . Ni chyhoeddwyd dim o'i waith yn ystod ei fywyd, ond dangosodd Syr J. E. Lloyd (ar dystiolaeth John Lloyd o Gaerwys a Gwallter Mechain ’) mai ef bioedd yr History of the Island of Anglesey a gyhoeddwyd yn ddi-enw yn 1775 ; a chynhwysodd William Williams o Landygai [q.v.] waith John Thomas , ‘ A Genealogical Account of the Families of Penrhyn and Cochwillan ,' yn ei Observations on the Snowdon Mountains , 1802 .

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 359;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Y Gwyliedydd , 1831 , 186;
  • Y Brython , 1864 , 54;
  • John Williams , David Hughes, M. A., and his free grammar school at Beaumaris an historical essay , Bangor, 1864 (arg. 1933), 26 ;
  • The Letters of Lewis, Richard, William, and John Morris, of Anglesey, (Morrisiaid Môn) 1728-1765 , 1907–9 ac Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86). Y Cymmrodor , xlix, 1947-9 (mynegeion);
  • Y Traethodydd , 1906 , 309-11;
  • Journal of the Welsh Bibliographical Society , 1920 , 129-35; 1944 , 110-11.

Awdur:

Mrs. Helen Myfanwy Ramage, M.A., ( -1992), Llanfaes, Biwmares