THOMAS, JOHN (1646? - 1695), clerigwr

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1646?
Dyddiad marw: 1695
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i Thomas Thomas, person Pennant-Melangell. Aeth i Neuadd S. Alban yn Rhydychen yn 1668, 'yn 22 oed,' a graddiodd yn 1672; bu'n ficer Llanbrynmair (1681-9) ac yn rheithor Penegoes (1689-1695); o 1691 hyd 1695 daliai hefyd brebend yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Sgrifennodd atebiad i ymresymiadau James Owen ym mhlaid urddau Presbyteraidd - wedi ei farw y cyhoeddwyd hwn, 1711, gan yr esgob George Hickes; dywedir iddo roi bodlonrwydd mawr i'r esgobion Lloyd o Lanelwy a Humphreys o Fangor. Bu Thomas farw 4 Tachwedd 1695, a chladdwyd ym Mhenegoes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.