THOMAS, ROBERT JERMAIN (1840 - 1866), cenhadwr ac arloesydd dan Gymdeithas Genhadol Llundain

Enw: Robert Jermain Thomas
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1866
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr ac arloesydd dan Gymdeithas Genhadol Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd 7 Medi 1840 yn Rhaeadr Gwy, lle'r oedd ei dad yn weinidog gyda'r Annibynwyr, cyn symud i Hanover, Mynwy. Bu am dymor yn athro ysgol yn Oundle, ac oddi yno yn 1856 ymaelododd ym Mhrifysgol Llundain. Fe'i cynigiodd ei hun i'r maes cenhadol, a bu'n efrydydd yn y Coleg Newydd, Llundain, gan raddio yn y Brifysgol (B.A.). Ordeiniwyd ef yn 1863, a hwyliodd i'w faes yn Shanghai. Ymwelodd â Chorea yn 1865, gan ennill crap lled dda ar ei hiaith. Yn 1866 dewiswyd ef i ofalu am ysgol Saesneg-Chinaeg Peking, ond yn fuan wedyn ymunodd â bagad o anturiaethwyr i chwilio Corea, pryd y daliwyd hwy gan y Coreaid a'u lladd bob un. Llwyddodd i daflu nifer o Feiblau ar y traeth, a chafodd eu darllen gryn ddylanwad. Yn 1931 adeiladodd y brodorion gofgolofn gerllaw'r fan y bu farw, sef ' Robert Jermain Memorial Church.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.