THOMAS, FREDERICK HALL ('Freddie Welsh '; 1886 - 1927), paffiwr

Enw: Frederick Hall Thomas
Ffugenw: Freddie Welsh
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1927
Priod: Fanny Thomas (née Weston)
Rhiant: Elilzabeth Thomas (née Hall)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 5 Mawrth 1886, ym Mhontypridd, mab i John Thomas o Bontypridd, a Elizabeth Thomas (ganwyd Hall). Cafodd ei addysg yn Long Ashton, Bryste, a dangosai duedd gref anghyffredin at chwaraeon er pan yn ieuanc iawn. Pan yn yr ysgol cipiodd nifer o wobrwyon am baffio, ymaflyd codwm, rhedeg, a neidio.

Cafodd ei lwyddiant cyntaf o bwys pan yn 20 oed, pryd y curodd Hock Heyes am gampwriaeth ysgafnbwys Awstralia, trwy ei fwrw allan yn yr ail rownd ar bymtheg mewn ymladdfa o ugain rownd. Ar ôl hyn daeth un gampwriaeth ar ôl y llall iddo. Dechreuodd trwy ddyfod yn ben paffiwr ysgafnbwys Cymru, gan ddwyn y teitl oddi ar Johnnie Owens yn 1907. Yna aeth ymlaen i guro Johnnie Summers am gampwriaeth ysgafnbwys Lloegr a Phrydain Fawr, a thrwy hynny enillodd y ' Lonsdale Belt ' gyntaf i gael ei chynnig yn y dosbarth hwnnw. Ymhen tair blynedd, yn 1912, cafodd Welsh fuddugoliaeth dros Hughie Mehegan, ac yna ennill campwriaeth ysgafnbwys yr Ymerodraeth Brydeinig a'r ail ' Lonsdale Belt.' Yn fuan ar ôl hyn enillodd y trydydd ' Lonsdale Belt ' trwy orchfygu Matt Wells am gampwriaeth Prydain Fawr, gan adennill y teitl a ddygodd Wells oddi arno yn 1911. Yn 1914 gorchfygodd Willie Ritchie am gampwriaeth ysgafnbwys y Byd.

Cyflawnodd ' Welsh ' lawer camp ym myd paffio. Yn 1907 ymladdodd â thri o wrthwynebwyr mewn un diwrnod a'u gorchfygu; eu henwau oedd Evan Evans (ysgafnbwys), Charlie Weber (is-ganolbwys), a Gomer Morgan (trymbwys).

Yn ddiweddarach aeth i fyw i America, a daeth yn gyfarwyddwr ar 'health farm' yn Bayside, Long Island. Yr oedd hefyd yn brif gyfarwyddwr yr adran ymarfer corff yn y ' Walter Reed Army General Hospital,' Washington, D.C.

Bu farw 28 Gorffennaf 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.