THOMAS, EZEKIEL (1818 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur;

Enw: Ezekiel Thomas
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1893
Rhiant: Catherine Thomas
Rhiant: Morgan Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur;
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1818, mab Morgan a Catherine Thomas, Pwll-mawr, Llansamled, Morgannwg. Prentisiwyd ef yn saer maen, ond dechreuodd bregethu yn ieuanc yng nghapel y Cwm, Llansamled. Ordeiniwyd ef yn sasiwn y Bont-faen, 1857, ond ni bu â gofal eglwys erioed. Cyfrifid ef yn feddyliwr praff, ac ymddiddorai mewn pynciau allan o'r cyffredin. Ei lyfr cyntaf oedd Daeareg Parth Gorllewinol Morganwg (Cwmafan, 1875), a dilynwyd hwnnw gan Human Harmony (Cwmafan, 1877) - traethawd ar berthynas dyn â Duw, y genedl a'r Eglwys. Cyhoeddodd Sylwadau ar yr Epistol at yr Hebreaid (Hirwaun) yn 1881; Cyfiawnhad trwy Ffydd (Abertawe) yn 1882; ac Adolygiad ar Farn y Tri Doctor (Treforus) yn 1890 - yr olaf yn draethawd dadleuol ynghylch awduraeth yr epistol at yr Hebreaid. Bu farw 12 Mawrth 1893, a'i gladdu ym mynwent capel y Cwm.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.