THOMAS, EVAN, neu ' Bardd Horeb ' (1795 - 1867), bardd, teiliwr wrth ei grefft

Enw: Evan Thomas
Ffugenw: Bardd Horeb
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1867
Priod: Margaret Thomas (née Charles)
Rhiant: Benjamin Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, teiliwr wrth ei grefft
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Barddoniaeth
Awdur: Geraint Bowen

Evan Thomas oedd mab hynaf Benjamin Thomas o Landysul, 8fed mab Thomas Francis o Felin Pant Olwen ar lan afon Cerdin a'i wraig (merch Ifan Tomos Rhys, y bardd o Lanarth). Priododd Margaret Charles, merch H. Charles, Cwrt Manarorion, Llangeler, ac wyres i'r Parch. Jenkin Jones, Llwyn-rhyd-Owen. Er iddo fyw am dymor yn Aberhonddu, cysylltir ef fel rheol â Horeb, Llandysul.

Daeth o dan ddylanwad yr eisteddfod daleithiol a 'Daniel Ddu o Geredigion.' Golygwyd ei farddoniaeth gaeth a rhydd gan Evan Pan Jones, a'i chyhoeddi yn Llanbedr-Pont-Steffan yn 1875. Enw'r gyfrol ydyw Telyn Ifan . Bu farw 2 Hydref 1867, 'yn 72 oed'; claddwyd ef a'i wraig ym mynwent Llandysul.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.