Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , EBENEZER (‘ Eben Fardd ’; 1802 - 1863 ). ysgolfeistr a bardd ; g. Awst 1802 yn Nhanlan , yn ymyl pentref Llangybi yn Eifionydd , mab Thomas Williams , gwëydd , a Catherine Prys , aelodau selog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng nghapel Ysgoldy , Pencaenewydd , lle yr ymunodd y mab â'r seiat yn 1811 . Cafodd addysg mewn ysgolion yn Llanarmon , Llangybi , ac Abererch , a dysgodd grefft ei dad. Bu am ychydig mewn ysgol yn Nhudweiliog yn Llŷn , ac wedi marw ei frawd, Evan , yn 1822 , ymgymerodd ‘ Eben ’ â'r ysgol a gadwai hwnnw yn Llangybi . Yn yr un flwyddyn ymadawodd â'r seiat. Yr oedd wedi dechrau ymhel â barddoniaeth, cyn bod yn 15 oed, ac wedi dod i adnabod Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn .’ Yn 1824 enillodd yn eisteddfod Powys yn y Trallwng am ei awdl ‘ Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid .’ Symudodd i gadw ysgol yn Llanarmon yn 1825 . Yn 1827 aeth i Glynnog ar gais Hugh Williams , ficer y plwyf , i gadw ysgol , o dan nawdd y Gymdeithas Genedlaethol mwy na thebyg, yn y rhan o'r eglwys a elwir Capel Beuno . Priododd yn 1830 â Mary Williams , Caerpwsan , Clynnog , a bu iddynt bedwar o blant, tair merch a mab. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop , ac yntau'n rhwymo llyfrau , er ychwanegu at ei gyflog fel ysgolfeistr , ac yn ddiweddarach ef a gadwai'r post . Yn 1839 ymaelododd eilwaith â'r Methodistiaid . Enillodd ei ail wobr eisteddfodol bwysig, am awdl ar ‘ Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob ,’ yn Lerpwl yn 1840 , ac yn y flwyddyn wedyn cyhoeddodd ei ddwy awdl, a rhai darnau byrrach, yn gyfrol o dan y teitl Caniadau ( Caernarfon , James Rees ). Yn 1842 torrodd ei gyswllt â'r Gymdeithas Genedlaethol , a symudodd ei ysgol i'w dŷ. Tua'r un adeg codwyd ef yn flaenor , ac aeth â'i ysgol i'r capel yn 1845 . Yn 1849 cafodd gynnig bod yn feistr Ysgol Genedlaethol newydd yng Nghlynnog ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys , ond gwrthododd. Cymerwyd diddordeb yn ysgol ‘ Eben ’ gan y Methodistiaid Calfinaidd , ac yn 1850 rhoes cyfarfod misol Arfon £15 y flwyddyn iddo, a chodwyd y swm i £30 yn ddiweddarach. Yr oedd i ddysgu plant aelodau Methodistaidd yn rhad, a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth , ac felly parhaodd y drefn drwy weddill oes ‘ Eben .’ Yn 1850 hefyd anfonodd ei bryddest ar ‘ Yr Atgyfodiad ’ i eisteddfod Rhuddlan , a cholli. Yn 1858 enillodd yn Llangollen am awdl ar ‘ Brwydr Maes Bosworth .’ Cynigiodd hefyd yng Nghaernarfon yn 1862 ar ‘ Y Flwyddyn ,’ ond curwyd ef gan Hwfa Môn .’ Bu f. 17 Chwefror 1863 , a chladdwyd ef wrth fur eglwys Clynnog . Yr oedd ei wraig a'i fab a dwy o'i ferched wedi marw o'i flaen.

Ystyrid ‘ Eben Fardd ’ yn ei oes yn un o brif feirdd Cymru , a gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y 19eg g. Beirniadodd hefyd lawer iawn; yr achlysur mwyaf nodedig oedd yn Aberffraw yn 1849 , pan fynnai ef wobrwyo awdl Emrys i'r ‘ Greadigaeth ,’ ond y ddau feirniad arall yn ei drechu, a gwobrwyo Nicander .’ Heblaw ei gerddi eisteddfodol adnabyddus, canodd lawer iawn o gerddi achlysurol, a rhai emynau. Y mwyaf adnabyddus o'i emynau yw hwnnw sy'n dechrau ‘ Os ydwyf wael fy llun a'm lliw .’ Cydolygodd Y Salmydd Cymreig gyda Roger Edwards ar gyfer argraffiad 1856 o'r gwaith hwnnw. Ysgrifennodd yn helaeth i gylchgronau'r cyfnod . Fel bardd , fe welir yn ei waith uchafbwynt yr hen ganu clasurol disgrifiadol yn ‘ Dinystr Jerusalem ,’ a hefyd olion y mudiad rhamantaidd newydd yn y canu telynegol (digon diafael) yn ei awdl ‘ Y Flwyddyn ,’ ac yn y canu arddunol ‘Miltonaidd’ yn ei bryddest ‘ Yr Atgyfodiad .’ Yr oedd yn wir yn ganolbwynt megis i lawer o weithgarwch llenyddol hanner cyntaf y 19eg g. Casglodd gryn lawer o hanes a thraddodiadau plwyf Clynnog , a chyhoeddwyd hwy dan y teitl Cyff Beuno yn 1863 , yn fuan wedi ei farw. Cyhoeddwyd Gweithiau Barddonol, etc., Eben Fardd yn 1873 (fel y tybir) dan olygiaeth Howell Roberts a William Jones .

Llyfryddiaeth:

  • Eben Fardd Cyfres y Fil 16 , Llanuwchllyn, 1906 (‘Cyfres y Fil’);
  • Y Geninen , xiv, 91; xix, 240; xx, 58, 100; xxi, 135;
  • Cymru , iv, 29; xxiv, 51; lviii, 9, 52, 93, 133, 149;
  • Y Traethodydd , xxxix, 283; xl, 178; 1, 177;
  • Wales, a National Magazine for the English speaking parts of Wales , 1894–7 , i, ii, iii, passim ;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870 , 1097 ;
  • ‘Adgof uwch Anghof.’ Llythyrau lluaws o Brif Enwogion Cymru , 1883 , passim ;
  • Y Gwyddoniadur Cymreig , 1889–96 (ail arg.), ix, 660;
  • Y Llenor , v, 137, 245;
  • [a gw. bellach Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , Gaeaf 1952 , 344-6].

Awdur:

Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor / Aberystwyth