THOMAS, DAVID (‘Dewi Hefin ’; 1828-1909), bardd;
g. yn Cnapsych, Llanwennog, sir Aberteifi, 4 Mehefin 1828. Addysgwyd ef yn ysgol Cribyn, a bu ef ei hun yn cadw ysgol yn Cribyn, Bwlch y Fadfa, Mydroilyn, Llanarth, Cwrt Newydd, a Llanwnnen yn sir Aberteifi. Ymddiswyddodd yn 1883. Cyfrannodd lawer i amryw gyfnodolion fel Seren Gomer a'r Ymofynydd. Cyhoeddwyd pedair cyfrol o'i farddoniaeth: Y Blodau, 1854; Blodau Hefin, 1859; Blodau'r Awen, 1866; Blodau Hefin, 1883. Bu f. 9 Mawrth 1909.
Llyfryddiaeth:
- The Welsh Gazette, 18 Mawrth 1909;
- Ben Morus, Byr-Gofion am Dewi Hefin;
- N.L.W. MSS. 3260 a 4361.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth